Blackbird Pie – mewnosod trydariadau o Twitter mewn gwefan *nawr yn Gymraeg*

Mae Nic wedi gofyn am fy addasiad Cymraeg o Blackbird Pie:

Blackbird Pie yw ategyn WordPress sy’n mewnosod trydariadau (hapus gyda’r term trydariad nawr?) mewn gwefan neu blog.

Dw i wedi addasu’r cod i Gymraeg. Enghraifft uchod. Neu ar adolygiad.com

O’n i’n mynd i rhannu’r cod beth bynnag! Ond dw i ddim yn 100% hapus gyda fe achos roedd rhaid i mi creu fforch o’r cod wreiddiol yn hytrach na defnyddio gettext/ffeil mo – er mwyn cael dyddiau Cymraeg.

Felly os maen nhw yn rhyddhau fersiwn newydd ac rwyt ti’n diweddaru’r ategyn bydd popeth yn Saesneg eto. (Os ti eisiau gwybod maen nhw yn defnyddio’r ffwythiant date yn hytrach na date_i18n. Efallai nai siarad gyda nhw.)

Rwyt ti angen copi o Blackbird Pie fersiwn 0.5.1 http://wordpress.org/extend/plugins/twitter-blackbird-pie/

Wedyn dyma’r ffeil PHP amgen http://quixoticquisling.com/cyfieithiadau/ategion/twitter-blackbird-pie-cymraeg.zip

Wrth gwrs rwyt ti angen WordPress ar westeia dy hun http://cy.wordpress.org

Gadawa sylw os ti’n ei defnyddio. Jyst chwilfrydig am ddefnydd.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.