Yn amlwg does dim digwyddiadau Hacio’r Iaith yn y cnawd ar hyn o bryd, felly diolch i Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor am gynnig darparu hanner diwrnod o sgwrsio, dysgu, a chwarae ar-lein.
Bydd croeso cynnes i bawb.
Rydyn ni’n mynd i gynnal digwyddiad bach ar-lein – rhyw fath o Hacio Bach – ar y 14 Tachwedd 2020 (9.00 – 1.00) yn defnyddio Teams. Mae’n ddigwyddiad agored y gall unrhyw un fynychu, a siarad am bwnc o’u dewis nhw. Fydd e ddim cystal â chael cwrdd wyneb yn wyneb, ond gobeithio y bydd yn dal yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Hoffai’r tîm technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor rai datblygiadau newydd ym maes adnabod lleferydd ac offer trin iaith gyda phawb, ond gobeithio y bydd gan bobl eraill hefyd gyfraniadau i’w gwneud ac y bydd yna gyfle i bawb gael sgwrs.
Er mwyn cofrestru ar gyfer y gynhadledd, anfonwch e-bost at s.ghazzali@bangor.ac.uk a byddwch chi’n cael eich hychwanegu at y cyfarfod Teams.
Mae tudalen am y digwyddiad – sy’n cynnwys yr amserlen a sesiynau.
Cysylltwch â Stefano Ghazzali am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn.
Dewch yn ôl yn fuan i glywed am ragor o ddigwyddiadau ar-lein yn y gyres achlysurol “Hacio’r Iaith yn cyflwyno” ar bynciau gwahanol!
1 sylw
Mae'r sylwadau wedi cau.