Mae WordPress 5.0 nawr ar gael!
Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd…
Mae thema newydd Twenty Nineteen wedi ei greu i ddefnyddio’r blociau newydd. Hefyd, mae nifer o ategion sy’n ymestyn y dull blociau i’w cael yn adran Ategion gwefan WordPress.
Er mwyn cadw defnyddwyr profiadol yn hapus mae modd defnyddio’r Classic Editor yn lle Golygydd Gutenberg, y golygydd newydd. Rwyf hefyd wedi lleoleiddiad ategyn Disable Gutenberg, sy’n gwneud beth mae ei enw’n ei awgrymu ac yn honni cynnig mwy o nodweddion na’r Classic Editor.
Ffigyrau
I’r rhai sy’n hoff o ffigyrau, mae’r ffigyrau llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.9 Cymraeg fel â ganlyn:
Pecyn Ryddhau: 1,946 a Pecyn Iaith: 36,361. (Gan gofio fod yna wedi bod naw fersiwn o WP 4.9)
Ffigyrau blaenorol
4.8 973 a 13,351.
4.6 521 a 4,191
4.5 446 a 3,356
4.4 250 a 3,369
Mwynhewch a byddwch gynhyrchiol!
Dyma’r broliant…
Dweud Helo wrth y Golygydd Newydd
Rydych wedi uwchraddio’n llwyddiannus i WordPress 5.0! Rydym wedi gwneud newidiadau mawr i’r golygydd. Ein golygydd newydd, sy’n seiliedig ar flociau, yw’r cam cyntaf tuag at ddyfodol newydd gyffrous gyda phrofiad golygu syml ar draws eich gwefan. Bydd gennych fwy o hyblygrwydd ar sut mae cynnwys yn cael ei arddangos, p’un a ydych chi’n adeiladu eich gwefan cyntaf, ail-lunio’ch blog, neu’n ysgrifennu cod ar gyfer eich bywoliaeth.
Adeiladu gyda Blociau
Ni fydd y golygydd bloc newydd yn newid y ffordd y mae eich cynnwys yn edrych i’ch ymwelwyr. Yr hyn y bydd yn ei wneud yw gadael i chi fewnosod unrhyw fath o amlgyfrwng a’i ail-drefnu yn ôl yr angen. Bydd pob darn o gynnwys yn ei floc ei hun; gydag amlapiwr arbennig ar gyfer ei symud yn hawdd. Os ydych chi’n fwy o fath HTML a CSS o berson, yna fydd y blociau ddim yn mynd yn eich ffordd. Mae WordPress yma i symleiddio’r broses, nid y canlyniad.
Mae gennym dunelli o flociau drwy ragosodiad, ac mae mwy yn cael eu hychwanegu gan y gymuned bob dydd. Dyma rai o’r blociau i’ch helpu i gychwyn arni:
Rhyddid i Adeiladu, Rhyddid i Ysgrifennu
Mae’r profiad golygu newydd hwn yn darparu triniaeth mwy cyson o gynllunio yn ogystal â chynnwys. Os ydych yn adeiladu gwefannau cleient, gallwch greu blociau y mae modd eu hailddefnyddio. Mae hyn yn gadael i’ch cleientiaid ychwanegu cynnwys newydd ar unrhyw adeg, tra’n parhau i gynnal golwg a theimlad cyson.
Thema Newydd Rhagosodedig Trawiadol
Cyflwyno Twenty Nineteen, thema ddiofyn newydd sy’n dangos pwer y golygydd newydd.
Wedi’i gynllunio ar gyfer y golygydd bloc
Mae Twenty Nineteen yn cynnwys arddulliau cyfaddas ar gyfer y blociau sydd ar gael yn ragosodedig yn 5.0. Mae’n gwneud defnydd helaeth o arddulliau golygyddol drwy’r thema. Felly, yr hyn rydych yn ei greu yn eich golygydd cynnwys yw’r hyn welwch ar flaen eich gwefan.
Cynllun syml, sy’n cael ei yrru gan y math o gynnwys
Yn cynnwys digon o le gwyn, penawdau modern sans-serif ynghyd â thestun corff serif clasurol, mae Twenty Nineteen wedi ei hadeiladu i fod yn brydferth o’r cychwyn. Mae’n defnyddio ffontiau system i gynyddu cyflymder llwytho. Dim oedi hir ar rwydweithiau araf!
Dylunio amlbwrpas ar gyfer pob gwefan
Mae Twenty Nineteen wedi ei gynllunio i weithio ar gyfer amrywiaeth eang o achosion defnydd. P’un a ydych chi’n cynnal blog lluniau, yn lansio busnes newydd, neu’n cefnogi menter dim-er-elw, mae Twenty Nineteen yn ddigon hyblyg i ddiwallu’ch anghenion.
Hapusrwydd Datblygwyr
Digelu
Mae blociau’n ffordd gyfforddus i ddefnyddwyr newid y cynnwys yn uniongyrchol, a hefyd yn sicrhau nad oes modd i darfu ar strwythur y cynnwys yn hawdd trwy olygu cod damweiniol. Mae hyn yn caniatáu i’r datblygwr reoli’r allbwn, adeiladu cod cynnwys trawiadol a semantig sy’n cael ei gadw trwy olygiadau ac nad yw’n hawdd ei dorri.
Cyfansoddi
Manteisiwch ar gasgliad eang o APIau a chydrannau rhyngwyneb i greu blociau hawdd gyda rheolaethau greddfol i’ch cleientiaid. Mae defnyddio’r elfennau hyn nid yn unig yn cyflymu gwaith datblygu ond hefyd yn darparu rhyngwyneb mwy cyson, defnyddiadwy a hygyrch i bob defnyddiwr.
Creu
Mae’r paradeim bloc newydd yn agor llwybr archwilio a dychmygu o ran datrys anghenion defnyddwyr. Gyda’r llif mewnosod bloc unedig, mae’n haws i’ch cleientiaid a’ch cwsmeriaid ddod o hyd i flociau ar gyfer pob math o gynnwys. Gall datblygwyr ganolbwyntio ar weithredu eu gweledigaeth a chynnig profiadau golygu cyfoethog, yn hytrach na thrafferthu gydag APIs anodd.