Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017!
Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol.
Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir.
Yn y cyfamser cadwch y dyddiad isod yn rhydd.
Hacio’r Iaith 2017
Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017
Pontio, Bangor, Cymru, Ewrop
Mae sôn hefyd gan un o ein ffrindiau am gynhadledd mwy ‘ffurfiol’ er diddorol am stwff digidol ar ddydd Gwener 20 ym Mangor gyda rhagor o fanylion am hyn i’w dilyn hefyd.
Gallwch archebu eich tocyn am ddim yma ar wefan newydd hyfryd @TocynCymru https://tocyn.cymru/cy/event/2d429cdb-8401-4bc5-9c00-ba4b84c8709f
Peidiwch oedi! Niferoedd cyfyngedig!