Haclediad 43 — Cwcio ar Gas

Yn yr Haclediad diweddaraf byddwn yn gadael i Google weld ein heneidiau wrth ddefnyddio Google Photos newydd, yn cynhyrfu dros gynhadledd datblygwyr byd-eang Apple (trïwch ddeud hynna efo llond ceg o uwd); yna’n yn myned i fyd y rants llyfrau digidol (eto) wrth ddarganfod nad yw llyfr Cymraeg y flwyddyn ar gael mewn fersiwn digidol.

Hyn oll a llawer, llawer mwy (gan gynnwys cynhyrfu am ffwrn ryngweithiol OSSYM) gan eich tîm hacledu lleol, Iestyn, Bryn a Sioned!

Dolenni