Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015.
Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.
Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:
- codi ymwybyddiaeth o, neu hybu’r defnydd o feddalwedd, aps, gwasanaethau ar-lein, a theclynnau creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys digidol Cymraeg.
- cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg
ar-lein - cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein.
Croesawir ceisiadau gan gyrff o’r trydydd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i’w Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol.
Gweithgareddau cymwys
Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n gymwys i’w hariannu dan y cynllun:
- Datblygu gwasanaethau rhyngweithiol Cymraeg ar-lein newydd;
- Yr isadeiledd digidol sydd ei angen er mwyn rhoi sylfaen i’r Gymraeg yn y maes digidol. E.e. llais i destun a deallusrwydd artiffisial;
- Mapiau rhyngweithiol yn y Gymraeg lle gellir mewnosod mapiau gyda labeli ac enwau llefydd Cymraeg ar dudalennau we;
- Prosiectau i gynyddu faint o gynnwys digidol yn y Gymraeg sydd ar gael ar-lein. Mae cynigion cynnwys sy’n ysbrydoli eraill i gyfrannu ac ehangu ar y cynnwys yn debygol o sgorio’n uwch na phrosiectau sy’n cyflwyno cynnwys gorffenedig;
- Mentrau hyfforddi a chyrsiau codio, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc;
- Mentrau i godi ymwybyddiaeth a hybu’r defnydd o feddalwedd, cynhyrchion seilwaith, cymwysiadau, gwasanaethau ar-lein, ac offer creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys Cymraeg digidol;
- System rheoli digwyddiadau ar lein a all hwyluso’r broses o drefnu digwyddiad, gwahodd/dosbarthu tocynnau a hyrwyddo’r digwyddiad ar draws y cyfryngau cymdeithasol;
- Cleient Twitter Cymraeg ar gyfer cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar;
- Teclyn torfoli trosiadau rhyngwyneb sy’n hwyluso defnydd termau safonol ar gyfer labelu botymau a negeseuon yn y porwr;
- Ap treiglo;
- Ategion/widgets Cymraeg ar gyfer gwasanaethau blogio a datblygu gwefannau;
- Systemau gweithredu dwyieithog megis systemau adnoddau dynol a systemau cyllid;
- Unrhyw weithgareddau eraill fyddai’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion a gyflwynwyd yng Nghynllun Gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac a fyddai’n addas i dderbyn grant.
Am fwy o wybodaeth am y grant, yn cynnwys y ffurflen gais a’r canllawiau a meini prawf: