BBC yn lladd Geiriadur Ar-lein

rip-bbc-geiriadur

Mae BBC newydd dynnu eu geiriadur Cymraeg-Saesneg i lawr. Mae’n anodd deall y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad yma, sef diffyg gallu i gefnogi’r technoleg yn y cefndir. Mantais y geiriadur BBC oedd y rhyngwyneb syml. Dw i’n ymwybodol bod cyfieithwyr proffesiynol a defnyddwyr amatur yn ogystal yn ei ddefnyddio fel ffynhonnell ddibynadwy trwy’r dydd.

Ddylen ni’n cymryd bod ‘technoleg’ yn golygu bach o perl neu rywbeth tebyg? Ta waeth, pe tasai’r geiriadur yn bwysig i’r BBC byddan nhw wedi ffeindio ffordd o’i gefnogi.

Mewn newyddion eraill, mae’r hen geiriadur.net – gwefan Prifysgol y Drindod Dewi Sant – wedi diflannu oddi ar y we ers wythnos ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth. Mae’n edrych fel bod rhywun wedi methu adnewyddu’r enw parth – yn ddamweiniol neu yn bwrpasol. Dw i wedi gofyn iddynt ond doedd dim ymateb.

Dw i’n tueddol o ddefnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru sydd yn adnodd da er bod y rhyngwyneb a dyluniad yn lletchwith yn fy marn i. Gallwn i ddweud yr un peth am Geiriadur yr Academi. Mae Ap Geiriaduron ar y ffôn ac mae Termau.org yn ddefnyddiol ar gyfer termau arbenigol.

Ond mae’r bysoedd yn dal i fethu’r geiriaduron sydd wedi diflanni y mis hwn.

Mwy o eiriaduron

17 sylw

  1. Rhaid dweud nad ydw i wedi defnyddio geiriadur.net ers blynyddoedd nac un y BBC i ddweud y gwir (ers dyfodiad GyA a GPC). Yr unig fantais i un y BBC yw fod e’n gwbl hygyrch a felly mae’r geiriau yn ymddangos yng nghanlyniadau peiriannau chwilio, a dyna’r unig adeg oeddwn i’n cyrraedd geiriadur y BBC. Roedd e weithiau yn ddefnyddiol i fynd o saesneg -> Cymraeg.

    Doedd y casgliad o eiriau ddim o dan drwydded agored beth bynnag a dwi ddim yn credu fod e’n cael eu ddiweddaru (yn anffodus, ydi’r un peth yn wir am Eiriadur yr Academi?)

    Fel rhywun sy wedi gorfod cynnal gwefannau sy’n fwy na degawd oed (rhai wedi eu dal at ei gilydd gyda Perl a darnau o gortyn) mae gen i gydymdeimlad o ran gorfod cynnal y gwasanaeth. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer platfform sydd ddim yn cael eu gefnogi, o ran diogelwch ac ati.

    Ar hyn o bryd dwi’n gorfod adeiladu system pen-blaen newydd i ‘guddio’ hen system etifeddol (sydd mond yn 8 mlwydd oed!). Wedi dweud hynny mae’n system llawer mwy cymleth na jyst chwilio am eiriau.

  2. Ro’n i’n ei ddefnyddio tipyn (defnyddiais i o bore ‘ma, cyn iddo diflannu). Yn ogystal a’r ffaith bod modd chwilio o Gymraeg i Saesneg, roedd geiriau arno na sydd ar GyA, yn arbennig pethau cyfoes, fel ‘gwefan’ er enghraifft (!) ac roedd yn handi wedyn i wirio cenedl gair yn Gymraeg. Nodwedd defnyddiol arall oedd wrth i chi ddechrau teipio gair, roedd yn dyfalu gweddill y gair, eto defnyddiol os nad oeddech yn sicr o’r sillafiad ac sy’n un o’r amryw nodweddion sydd ddim gan GyA.

    O ran yr ochr dechnegol, mae’n siwr bod cynnyws mewn ieithoedd eraill yn cael eu colli o safleodd y BBC am yr un rheswm (wyddwch chi am esiampl?), a dwi’n gwybod y nesaf peth i ddim am yr ochr hyn, ond dychmygaf mai dyma un o wasanaethau Cymraeg y BBC oedd yn cael dipyn o ddefnydd, ac ysgwn i a roddwyd unrhyw ystyriaeth i’w ail-lansio ar sail y dechnoleg ddiweddaraf sy’n gyrru gwefannau BBC? Neu ai esgus cyfleus yw hyn i gwtogi ar y Gymraeg ymhellach gan y gorfforaeth?

  3. Bum yn gweithio ar y geiriadur ac roedd hi’n anffodus ei fod wedi ei greu cyn i’r BBC adnewyddu eu systemau arlein canolog. Byddai’n gret petai BBC Cymru Arlein yn gofyn an arian prosiect i greu fersiwn newydd gan mai hwn oedd yr unig adnodd oedd yn dweud os oedd gair yn fenywaidd/gwrywaidd (help mawr pan yn sortio treigladau), rhedeg berfau ac yn cynnig clipiau sain. Werth holi Huw M yr Is Olygydd am fersiwn newydd.

  4. Erbyn hyn rwy’n dibynnu ar y Gweiadur (www.gweiadur.com) – mae’n rhoi cenedl enwau, rhedeg berfau ac arddodiad a chymharu ansoddeiriau yn ogystal â rhoi clipiau sain ar gyfer llawer o’r geiriau. Yn ogystal, mae’n diffinio pob gair sydd yn llawer o help wrth ddewis y gair Saesneg cyfatebol mwyaf priodol. (Rwy’n mynd at GPC a GyA pan nad yw’r gair yn y Gweiadur, ond gyda band-eang cefn gwlad, dwi’n ffeindio’r ddau yn araf iawn i lwytho!)

  5. @dafyddtomos

    Dw i’n siŵr bod ‘na trafferthion i’r gweithwyr.

    Ond o ran y Gorfforaeth, dw i ddim yn meddwl bod y rheswm swyddogol yn iawn.

    BBC, dwedwch os nad ydych chi’n meddwl bod angen darparu Geiriadur bellach oherwydd opsiynau eraill ar y we. Neu os nad yw’r trwydded ar gyfer y cynnwys ar gael rhagor. Dyma i chi resymau da. Maent yn cyfeirio at bethau allanol.

    Mae’r prosiect Geiriadur yma yn fach iawn. BBC wnaeth datblygu iPlayer a sawl prosiect uchelgeisiol arall. Mae arian i’w fuddsoddi/wastraffu ar DMI ond oedd ‘na unrhyw ymdrech i chwilio am gynllun amgen ar gyfer prosiect Cymraeg?

  6. Yn ogystal â’r Geiriadur, mae Vocab di mynd hefyd (teclyn i gyfieithu geiriau o fewn tudalen). Yn sicr roedd o’n hen dechnoleg ac angen ei adnewyddu (mae na ffyrdd lot gwell o wneud yr un peth erbyn hyn) ond mae’n edrych fel bod y BBC jysd di tynnu’r plwg heb drafferthu ddweud wrth y bobl eraill oedd yn ei ddefnyddio, gan dorri gwefannau allanol.

    Mae’n wir bod y BBC wedi symud at system wedi seilio ar PHP ar gyfer y brif safle, ac roedd y Geiriadur a Vocab yn rhaglenni Perl (datganiad diddorddeb: fi codiodd y ddau), felly fyddai wedi bod yn anodd eu cynnal yn eu ffurf bresennol.

    Ond petai ewyllys yna i’w cadw neu eu haildatblygu, gellid fod wedi gwneud, wrth gwrs.

    Mae safle enfawr Genome newydd y BBC wedi codio’n Perl, felly yn amlwg fyddai ddim yn amhosib.

    http://www.bbc.co.uk/blogs/internet/posts/Genome-behind-the-scenes

    Felly esgus ydi’r lein am dechnoleg. Diffyg diddordeb ydi’r gwir rheswm am wn i.

    Ond mae yn edrych yn od bod holl adnoddau dysgu Cymraeg y BBC yn cael eu cau neu’u harchifio, tra bod y bosys yn dweud bod angen denu mwy o rai llai hyderus eu Cymraeg i ddefnyddio’r gwasanaethau.

  7. “Mae’r prosiect yn fach iawn”. A dyna pam y byddai yn isel iawn ar restr y byddai’r BBC eisiau cynnal. Cywirwch fi os dwi’n anghywir ond os oedd na waith (gwefannau) technegol wedi ei wneud o fewn BBC Cymru yn y gorffennol, dyw hynny ddim yn wir bellach. Mae Vocab wedi diflannu hefyd er enghraifft, union 10 mlynedd ar ôl lansio (oedd yna gyfyngiad ar y drwydded geiriadur?)

    Yn hytrach na ail-greu gwasanaeth gan y BBC gyda data caeëdig eto, efallai fase’n syniad edrych ar be sy’n bosib gwneud gyda data agored. Mae’n debyg fod grantiau ar gael ar gyfer y math yma o beth.

  8. Dwi’n meddwl ei bod yn wir i ddweud bod adnoddau y BBC i gyd wedi eu canolbwyntio ar Cymru Fyw erbyn hyn o ran gwaith arlein. Does dim adran neu staff mewnol yn gweithio ar ddatblygu pethau fel hyn hyd y gwn i. Mae hyn yn spillover o DQF a’r lleihau ar yr hyn oedd yn cael ei weld fel ‘mission creep’ y Bîb ar y we. Dwi’n gweld y safbwynt taw nid rili lle y BBC yw darparu geiriadur arlein, ond dwi’n gweld hefyd bod DQF yn amherthnasol pan ti’n sôn am gynnwys Cymraeg, lle mae pob atodiad i’r hyn sydd ar gael yn werthfawr. Dyna pam bod y drafodaeth yma’n digwydd, er bod geiriaduron eraill i’w cael.

    Dwi’n credu bod na bwynt ehangach yma hefyd, sef y dylai bod sefydliadau sydd â rôl fawr i’w chwarae yn nhirlun digidol Cymru fod yn cydweithio er mwyn cynllunio prosiectau Cymraeg all weithio i wella sefyllfa pawb. Mae na bethau sydd yn rhan o isadeiledd y we mewn ieithoedd gwahanol ac mae adnoddau iaith yn rhan o hynny, fel y mae tech adnabod iaith – y blociau adeiladu. Os nad ariannu un ar eu gwefan eu hunain, dylai PSB Cymraeg olygu ariannu’r math hyn o beth hefyd, hyd yn oed os mae’n bodoli rhywle arall.

  9. Sgwrs ddiddorol. Jyst eisiau ail-bwysleisio pwynt Robyn – mae gweiadur.com yn dda iawn, ac ar gael am ddim. Mae hefyd yn cynnwys adran gyda rhediad berfau. Mae BBC Vocab yn adnodd defnyddiol iawn – dyw hynny ddim wedi diflannu hefyd nag yw e? Cytuno gydag Iwan S hefyd bod hwn yn gwbl groes i strategaeth Radio Cymru o ran denu’r dysgwyr i’r gwasanaeth.

  10. Mae geiriadur.net yn fyw, oni mod i’n breuddwydo?

    Efallai nid syniad newydd ydi hi, ond mi ro’n i’n meddwl, beth am prosiect rhyng-geltaidd i ddatblugu cyfiethiwr porwr? Wrth gwrs, cynnwys anhebyg sydd ar angen i’r geiriadur, ond dwi’n credu bod problemau tebyg iawn ganddyn nhw: mae’n rhaid i’r technoleg nabod arddodiadau, treigladau, ayyb.

  11. Dyma ohebiaeth gyda’r BBC er gwybodaeth.

    Annwyl BBC

    Fel defnyddiwr brwd o wefan BBC hoffwn i ofyn cwestiwn i chi.

    Allech chi adael i mi wybod pa wasanaethau ar-lein sydd wedi dod i ben yn ddiweddar os gwelwch yn dda?

    Rwy’n ymwybodol bod rhai wedi gorffen fel canlyniad o’r penderfyniad i ddiffodd y cysylltiad i weinyddion ATOS gan gynnwys y Geiriadur, VOCAB a’r Rhedwr Berfau ac wedi clywed bod ambell i gêm wedi gorffen hefyd.

    Diolch yn fawr iawn i chi

    Carl

    Annwyl Carl,

    Diolch am eich ymholiad am wasanaethau ar-lein y BBC.

    Dros y misoedd diwethaf, mae’r BBC yn ei gyfanrwydd wedi ymgymryd â phrosiect eang i edrych ar ein cynnwys ar y we, yn enwedig hen wefannau. Fel rhan o’r prosiect, rydym wedi mudo cynnwys i’n tudalennau cyfredol yn ogystal â chau ac archifo peth o’n cynnwys nad yw’n gyfredol bellach neu lle mae’r dechnoleg yn rhy hen i’w gynnal. Lle mae hyn wedi digwydd, mae baner ar y dudalen i nodi ei fod una’i wedi ei archifo neu ei gau.

    Fe sonioch yn benodol am VOCAB, y geiriadur a’r Rheolwr Berfau. Fe ddatblygwyd y rhaglenni hyn tua deng mlynedd yn ôl, fel adnoddau ar-lein i helpu defnyddwyr y we oedd yn dysgu Cymraeg. Bellach, nid yw’r dechnoleg sy’n sail i’r rhaglenni yma yn gyfredol, felly nid oes modd ei gynnal. Fel y byddwch yn ymwybodol, dros y blynyddoedd, mae’r ddarpariaeth o safbwynt adnoddau ar-lein i ddefnyddwyr y Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol gydag adnoddau eraill ar gael erbyn hyn sydd yn gwneud gwaith tebyg. Am restr ewch i http://m.bbc.co.uk/cymrufyw/29173236

    Gan fod adnoddau ar-lein i ddefnyddwyr y Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd, a geiriaduron ac adnoddau eraill ar gael, rydym yn edrych ar ein darpariaeth ym maes dysgu Cymraeg yn fwy cyffredinol ac ar hyn o bryd yn ymgynghori gydag unigolion sydd yn gweithio yn y maes yma. Ein bwriad fydd lansio elfennau newydd o’n gwasanaeth yn y misoedd nesaf fel rhan o’n gwasanaeth ar-lein newydd, Cymru Fyw.

    O ran y gemau, mae nifer fach o’r gemau oedd yn defnyddio’r dechnoleg CGI wedi eu cau gan nad oes modd cynnal y dechnoleg. Rydym yn ymwybodol o broblemau technegol dros dro gyda rhai o’r gemau sy’n defnyddio Flash, wrth i’r gwaith o gysoni’r we fynd rhagddo ac yn gweithio i adfer y rhain ar hyn o bryd.

    Diolch i chi eto am gysylltu.

    Gwasanaethau’r Gynulleidfa, BBC Cymru
    03703 500 700
    BBC Cymru
    http://www.bbc.co.uk/cymru

  12. Falle nid yn wasanaeth, ond mae gwybodaeth ddefnyddiol (YFMI) am y Gymraeg, ond yn Saesneg wedi diflannu, sef ‘What’s in a name?’ (gweler hen URL: http://www.bbc.co.uk/wales/whatsinaname/sites/placenames/pages/alltwalis.shtml). Nid rheswm technegol sydd tu cefn i hyn hyd y gwelaf i, gan bod fersiwn Cymraeg yn dal i fodoli.

    Yn 2007, blogiais am gyfres arbennig o ddathliladau gan Radio Cymru/BBC Cymru i ddathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi Wythnos yng Nhgymru Fydd. Roedd is safle ar wefan BBC ar ei gyfer gyda thipyn o gynnwys. Gallaf ddeall y gall bod problem trwydded gyda rhan o’r cynnwys, ond yn roedd y wefan yr is wefan i’w gweld 5 mis yn ddiweddarach o leiaf: https://web.archive.org/web/20071021082303/http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/wythnos/
    Eto nid gwasanaeth oedd hwn, ond roedd o’n adnodd addysgol defnyddiol a rhywbeth dwi wedi cyferio dysgwyr ato yn y gorffenol gan bod y llyfr wedi ei addasu ar gyfer dysgyr ac mae’n/roedd yn ffordd dda o roi ychydig o gyd-destun i bobl sy’n anghyfarwydd a diwylliant/hanes/gwleidyddiaeth Cymru a’r Gymraeg yn ogystal a bod yn un o nofelau amlycaf ein llên.

  13. Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a cholegau addysg bellach.

    Roeddwn i’n betrus iawn am eu cyfuno, fel a wnaed yn ein gwaith gwreiddiol i’r BBC. Roedd hyn am ein bod yn ceisio cael pobl i ddeall y gwahaniaeth rhwng geiriadur disgrifiadol fel Cysgair ar y naill law (lle mae rhyddid i bobl ddewis eu geirfa allan o holl gyfoeth yr iaith), a geiriadur rhagnodol fel Y Termiadur Addysg ar y llaw arall (lle mae angen safoni termau technegol er mwyn cyfathrebu clir).

    Ond mae’r ymateb ers i’r BBC dynnu’r geiriadur wedi dangos fod yna le i eiriadur gyda rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio fel hwn, sy’n gyfuniad o eiriau cyffredin a’r eirfa dechnegol ddiweddaraf yn yr iaith. Byddwn ni yn yr Uned Technolegau Iaith yn ceisio’i gynnal a’i ddiweddaru o hyn allan felly o’n hadnoddau ein hunain. Diolch i Dewi a Gruff o’r Uned am eu holl waith yn ei adfer a’i roi ar lein.

Mae'r sylwadau wedi cau.