Fel rhywun wnaeth gyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Disqus yn y gorffennol, ges i ebost ganddyn nhw heddiw’n dweud eu bod wedi newid gwefannau/widgets ac angen cyfieithu o’r newydd.
Dwi’n gweld mwy o flychau sylwadau Facebook na rhai Disqus dyddia ma felly dwn i ddim faint o flaenoriaeth ydi hwn mewn gwirionedd. Ond dyma’r ddolen os oes unrhyw gyfieithgwn isio rhoi tro arni.
Dwi newydd wedi gorffen cyfieithu Disqus ac mae nawr yn fyw. Yn anffodus, nid oes unrhyw sylw ‘cyd-destun’ o dan y teclyn cyfieithu, felly posib bod sawl gwall yn bodoli. Felly, plis ewch ati a chyfrannu os ydych chi’n sylwi ar unrhyw broblemau ac ati.
Da iawn! Dw i newydd galluogi Disqus Cymraeg ar Y Bydysawd fel prawf. Plis gadawa sylw ar eitem newyddion neu rhaglen teledu i’w brofi.
Gyda llaw dw i newydd postio diweddariad ar Y Bydysawd.