Sesiwn 5c: Ni yw'r 1%! (trafodaeth am gynnwys Cymraeg)

Eitem 1. Penyberth 7 http://shwmae.com/2011/09/yn-fuan/

Eitem 2. ContEnders http://www.youtube.com/watch?v=moNBS03yxik

Eitem 3. Y Rech http://imgur.com/eL8vm

Eitem 4. Blog Lowri Haf Cooke http://lowrihafcooke.wordpress.com

Eitem 5. Reddit Cymru http://www.reddit.com/r//cymru

5 sylw

  1. “yr 1%: pobol sy’n gallu siarad Cymraeg, ddim ond yn treulio 1% o’u amser yn edrych ar ddeunyd Cymraeg” – ystadegyn sydd a’i sail yng nghyflwyniad gan Sian Gwynedd, BBC (yn y gynhadledd tech a’r Gymraeg?)

  2. NPLD oedd y gynhadledd yng Nghaerdydd. Dyma’r ystadegyn a dyma Storify Rhodri gyda mwy o’r gynhadledd.

    Felly rydyn ni i gyd – sefydliadau ac unigolion – yn gyfrifol am greu a hyrwyddo’r cynnwys sydd yn llenwi 1% (cymedr) o amser pobl Cymraeg ar y we.

    Pwy sydd am osod targed cenedlaethol: 2%?!

  3. Dwi eisiau gweld yr ymchwil tu ôl yr ystadegyn rhaid dweud. Os da ni’n seilio unrhyw weithred ar un ystadegyn, mae angen gweld sut yn union cyrhaeddwyd ato.

  4. O ddifrif nawr, dw i eisiau gweld yr ymchwil hefyd.

    Nodiadau ychwanegol am y sesiwn:

    Roedd y dolenni uchod yn sail arolwg anffurfiol (a modd tynnu sylw pobl ar ôl diwrnod bywiog!). Doedd dim un o’r dolenni wedi cael ei ymweld gan mwy na 50% o’r pobl yn y stafell. Doedd dim byd gwyddonol am fy ymchwil yma ond dw i’n tybio bod lot o gynnwys sydd ddim yn cyrraedd ei botensial o ran sylw. Ac mae’r diffyg dosbarthu yn her i ni.

    Doedd dim lot o atebion i’r her/cwestiwn yma.

    Efallai dylen ni i gyd rhannu dolenni i bethau rydyn ni’n hoffi ar-lein, hyd yn oed os ydyn ni’n meddwl bod y cynnwys yn digon poblogaidd fel y mae (dyw e ddim mewn gwirionedd). Mae lot o bobl yn hapus i rannu straeon Daily Mail yn aml iawn (wel, dw i ddim…) felly beth am gynnwys Cymraeg?

    Roedd rhywun yn dweud bod angen help sefydliadau cyfryngol er mwyn tynnu mwy o wylwyr/gwrandawyr/darllenwyr. Dw i’n credu bod un darlledwr o leaif yn ystyried platfform i gynnwys annibynnol Cymraeg ar hyn o bryd – pigion y dydd neu rhywbeth tebyg.

    Byddai dosbarthu llwyddiannus yn helpu’r rhwydwaith sydd yn helpu pawb gobeithio, pobl broffesiynol yn ogystal â gwirfoddolwyr a phawb rhyngddyn nhw. Byddai ‘cyfryngau traddodiadol’ – llyfrau ar bapur, teledu, radio – yn elwa o fwy o sylw ar-lein. Dyma’r math o beth rydyn ni’n gweld gyda BBC Question Time a #bbcqt (jyst un enghraifft).

    O ran darpariaeth o gynnwys dwedodd rhywun does dim eisiau mwy o newyddion rhyngwladol yn y Gymraeg. Dw i’n anghytuno! Mae mwy i bethau Cymraeg ar-lein na chyfrwng ieithyddol neu cyfieithiadau o ieithoedd eraill yn unig. Dylen ni ofyn, yn fy marn i, am newyddion gan gynnwys newyddion rhyngwladol – trwy lygaid Cymraeg a safbwynt Cymru. Dyma beth sy’n apelio – safbwyntiau, lleisiau, dehongliad o Gymru yn Gymraeg.

Mae'r sylwadau wedi cau.