Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill.
Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.)
Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys yr ystadegau ym meysydd eraill. Efallai byddai pobl yn ffeindio cysylltiadau newydd rhwng y Gymraeg a data eraill.
Trafodaeth: ym mhersonol dw i ddim yn disgwyl llawer o syndod o ran yr ystadegau ar y Gymraeg: mwy o siaradwyr potensial ar y cyfan ar sail addysg Cymraeg, lot llai o gymunedau Cymraeg. Fydd ddim lot o iechyd i’r iaith Gymraeg heb gymunedau Cymraeg.
Ond mae sawl lle i drafod y broblem ehangach. Rydym ni’n trafod pynciau gyda rhyw fath o gysylltiad i dechnoleg yma. Felly’r cwestiwn anodd sydd yn bwysig i mi felly yw: sut allai technoleg a chyfryngau digidol helpu’r ymdrech i gynnal cymunedau Cymraeg cynaliadwy? Dw i wedi bod yn meddwl am y cwestiwn yma eithaf lot yn ddiweddar. Dw i’n gallu meddwl am sawl pwnc o fewn ein maes ni: ymgyrchu/lobio, newyddion lleol, gwaith, arloesi/cwmnïau cychwynnol, addysg, datblygu polisi.
Un elfen bwysig o’r sgwrs yw natur cymunedau. Dw i’n disgwyl pobl i ddweud bod cymunedau yn ‘wahanol’ dyddiau yma. Wel, ie ac na… Ambell waith dw i’n defnyddio’r term ‘cymunedau ar-lein’ ond mewn gwirionedd does dim wal galed rhwng ar-lein a’r byd corfforol. Mae ar-lein yn gallu cryfhau cysylltiadau ‘off-lein’ – dw i wedi gweld enghreifftiau. Wrth gwrs mae lot o bobl heb gysylltiad i’r rhyngrwyd neu yn ei defnyddio dim ond bob hyn a hyn. Wedi dweud y cwbl, mae’n anodd i mi ddychmygu cymuned leol go iawn heb ‘sefydliadau’ fel ysgol, swyddfa bost a siop (yn enwedig mewn pentref bach) ac yn anffodus mae grym tu allan i’r cymuned sydd yn penderfynu ac yn dylanwadu ar bethau mor hanfodol fel ‘na.
Mae’r cofnod yma wedi bod yn llif o feddyliau heb lot o strwythur. Byddwn i’n croesawu unrhyw sylwadau perthnasol isod.
“…mwy o siaradwyr potensial ar y cyfan ar sail addysg Cymraeg, lot llai o gymunedau Cymraeg.”
Dwi’m yn siwr os bydd na lot llai o gymunedau Cymraeg yn y Gogledd. Dibynu ar y diffiniad mae’n siwr. Os ti’n edrych ar Wardiau > 70%, dwi’m yn disgwyl i’r nifer ddisgyn llawer yng Ngwynedd / Mon. A dweud y gwir, dwi’n disgwyl i’r nifer sy’n siarad Cymraeg cynyddu yng Ngwynedd (fel y gwnaeth yn 2001 ymhlith pobl iau na 50).