Yn ôl yn 2009 daeth sawl gwefan defnyddiol i ben wrth i’r Post Brenhinol fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn am ddefnyddio data codau post oni bai eu bod yn talu £4,000 y flwyddyn am y data.
Un o’r gwefannau oedd PlanningAlerts.com a oedd yn tynnu gwybodaeth am geisiadau cynllunio o wefannau awdurdodau lleol a’i cyflwyno’r data mewn modd hygyrch ac addas i’w ailddefnyddio ar wefannau eraill. Roedd hefyd yn caniatáu i chi osod hysbysydd e-bost neu RSS fel eich bod yn cael gwybod am unrhyw geisiadau cynllunio o fewn pellter penodol o’ch cymuned.
Do’n i ddim yn ymwybodol bod y wefan wedi llwyddo i ailddechrau ers hynny, ond roedd y pwysau gwaith a’r gost o gynnal y gweinydd yn ormod i’r gwirfoddolwyr. Y newyddion da ydy bod y wefan OpenlyLocal wedi derbyn y sialens o atgyfodi’r gwasanaeth eto ac wedi derbyn ychydig o nawdd gan NESTA.
Mae’n dasg lafurus fel mae hi, heb sôn am y ffaith bod gwahanol awdurdodau lleol yn defnyddio dulliau gwahanol o gyflwyno’r wybodaeth.
Mae’nt yn gofyn am gymorth y gymuned i wneud hyn, a hyd yn oed yn cynnig arian (£75) i unigolion sy’n creu crafwr ar gyfer gwefannau awdurdod lleol penodol. Mae’n nhw wedi dewis rhestr o rai sy’n cyhoeddi eu data mewn ffurf anhygyrch dros ben, ac os d wi’n iawn, mae dau o Gymru ar y rhestr, sef Sir Gaerfyrddin a Sir y Fflint. Mae’n nhw wedi gosod rhai canllawiau ar sut pa fath o grafwyr maen’t eisiau. Mae gofyn bod chi’n gyfarwydd a defnyddio Ruby, Python a PHP a wefan Scraperwiki.
(Draw ar Scraperwiki, mae crafwr ar gyfer ceisiadau cynllunio Merthyr Tudful, ond d wi ddim yn gwybod os ydy o’n weithredol)