Dyma stori wedi ei chymryd o adran newyddion gwefan Coleg Llandrillo:
Myfyrwyr Smart
Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o ddisgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog ddiwrnod ar gampws Coleg Meirion- Dwyfor ym Mhwllheli yn cymryd rhan mewn gweithdy technoleg unigryw.
Cafodd y myfyrwyr ddysgu am hanfodion creu apiau ar gyfer ffonau a thabledi smart, a chawsant roi cynnig ar greu rhai eu hunain.
Dywedodd Eifion Owen, Pennaeth Astudiaethau Galwedigaethol ym Mhwllheli:
“Roedd cynnal gweithdy apiau yn ffordd ryngweithiol o gyflwyno un yrfa bosibl yn y sector technoleg gwybodaeth i ddisgyblion ysgol. Yn sgil y datblygiadau parhaus a welir mewn ffonau a thabledi smart, roedd yn rhaid i’r diwydiant addasu ac ymateb. Mae Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth yn ddiwydiant cyffrous i weithio ynddo, ac mae’r newidiadau a’r datblygiadau newydd yn ei wneud yn faes hynod ddiddorol o safbwynt gyrfa. Hoffem ddiolch i’r cynllun Ymgyrraedd yn Ehangach am y cymorth ariannol i gynnal y gweithdy ac am y cyfle i roi profiad newydd i’r disgyblion ysgol.”
Mae’n dda clywed bod cyfleoedd fel hyn yn cael eu cynnig i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr addysg bellach yng Nghymru. Byddai’n wych cael gwybod beth oedd ffrwyth y gweithdy.
Dyma gyfle hefyd i mi roi plyg i’r gweithdy creu app sy’n cael ei gynnal bore fory (Dydd Gwener 10fed o Awst) ym mhabell Cefnlen ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym mro Morgannwg. Bydd gweithdy gan Mei Gwilym (manylion y gweithdy yma) ac hefyd cyflwyniad gan David Chan am yr apiau ffôn symudol sy wrthi’n eu datblygu gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor