Oes mae ap newydd ar gael ar gyfer perchnogion dyfeisiau symudol Apple fydd yn rhoi gwybod aeth am lwyth o weithgareddau’r maes a dangos be di be.
Dyma ambell sgrinlun i chi, ond gallwch chi lawrlwytho o iTunes.
A dyma’r blyrb:
Croeso i’r Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau mawr y Byd. Yr app hwn yw eich canllaw poced ar gyfer digwyddiadau’r ŵyl yn 2012 a gynhelir ar yr hen faes awyr yn Llandw ym Mro Morgannwg o ddydd Sadwrn 4 i ddydd Sadwrn 11 2012.
Mae’r app yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl ar y Maes, sut i gyrraedd yno ac amserlen y gweithgareddau drwy gydol yr wythnos.
Cymerwch y app gyda chi i’r Maes a bydd gennych ganllaw defnyddiol o’r hyn sydd ymlaen, lle a pha bryd drwy’r cyfeiriadur digwyddiadau. Edrychwch ar y rhestr o arddangoswyr i ymweld â nhw a dewch o hyd iddynt ar y map. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i unrhywbeth, chwiliwch am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ôl categori neu leoliad.
1 sylw
Mae'r sylwadau wedi cau.