Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

Rhifyn arbennig O’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr.

Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR

O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos…

Dolenni


  1. Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir  ↩

6 sylw

  1. Be dwi’n hoffi orau am yr haclediad yw pobl gyda ychydig iawn o wybodaeth yn malu cachu am awr. Heblaw hynny, roedd e’n dda.

  2. @Dafydd Fedri di sgwennu hyna mewn review iTunes? Angen cael crysau t di neud: Yr Haclediad – Pobl gyda ychydig iawn o wybodaeth yn malu cachu am awr. Love it

  3. Wedi ei lawrlwytho fel gallaf wrando iddo wrth hedfan nos Lun. Edrych ‘mlaen.

Mae'r sylwadau wedi cau.