Yn eisiau: gwirfoddolwyr ar gyfer Haciaith Steddfod

Manylion i gyd yma: http://hedyn.net/wici/G%C5%B5yl_Dechnoleg_Gymraeg_Eisteddfod_Genedlaethol_2012

Os gallwch ddod i’r Gefnlen am fore neu bnawn byddai hynny’n wych. Da ni’n chwilio am lot o bobol wahanol i helpu i fod o gwmpas y babell i fod ar gael i gael sgwrs efo pobol am y we, cyfryngau cymdeithasol, dyfeisiau ac ati. Trio cael ystod o bobol ac arbenigeddau, felly os gallwch roi cwpwl o oriau byddai hynny’n wych.

Gallwch chi roi eich enw ar y Wici neu jest rhowch wybod yn sylwadau y gofnod yma.

8 sylw

  1. Dwi’n fodlon son am “viral marketing” gogyfer a digwyddiadau cyhoeddus/codi arian at elusennau ar y D.Llun neu/ac D.Mawrth…well byth os oes yna ymadrodd yn y Gymraeg am hynny! Fydda i angen D.Mercher a D.Iau i ymarfer a newid mewn i wisg Daf Wyn gogyfer a’r gig Meic Stevens nos Iau! (enghraifft fach i chi fan yna) #starterfor10

  2. Dwi’n gallu helpu gyda WordPress/Soundcloud, a llwytho fideos
    Ar YouTube!ac yn hoff Iawn o rhwydweithiau cymdeithasol!:)

  3. Er mwyn ceisio arddangos marchnata fel firws drwy’r wythnos i godi arian (i Gymdeithas yr Iaith), dwi’n gobeithio cael cofnod o gymaint o atebion sy’n bosib i’r cwestiwn syml “beth yw iaith eich Cymdeithas chi?” ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn y gefnlen, felly croeso i chi ateb isod as nad y chi ar y maes bryd hynny. + gofynnwch i bawb chi’n nabod i daro draw! Newn ni’n siwr bod Leighton a Marc yn cael gweld yr ymatebion. Diolch

Mae'r sylwadau wedi cau.