SWYDD: Cymorth Technegol/Gweinyddwr Systemau (Caerdydd)

Mae’r swydd yma yn asiantaeth digidol Imaginet yng Ngaerdydd – rydyn ni’n datblygu gwefannau ac apps. Mae’n addas ar gyfer graddedigion diweddar fel swydd gynta yn y diwydiant.

Prif ddyletswydd y swydd yw cynnal ein datrysiadau a systemau ar gyfer amryw o gleientiaid. Fe fydd angen dealltwriaeth o raglennu yn PHP a gweinyddu systemau Linux yn rhedeg Apache/MySQL ac ati. Mae’r gwaith yn berffaith i rywun sydd a diddordeb mewn cynnal systemau gyda’r cyfle i wneud peth gwaith rhaglennu hefyd.

Mae yna fwy o wybodaeth yn Saesneg fan hyn neu cysylltwch â fi am wybodaeth ychwanegol.