Manylion i gyd yma: http://hedyn.net/wici/G%C5%B5yl_Dechnoleg_Gymraeg_Eisteddfod_Genedlaethol_2012
Os gallwch ddod i’r Gefnlen am fore neu bnawn byddai hynny’n wych. Da ni’n chwilio am lot o bobol wahanol i helpu i fod o gwmpas y babell i fod ar gael i gael sgwrs efo pobol am y we, cyfryngau cymdeithasol, dyfeisiau ac ati. Trio cael ystod o bobol ac arbenigeddau, felly os gallwch roi cwpwl o oriau byddai hynny’n wych.
Gallwch chi roi eich enw ar y Wici neu jest rhowch wybod yn sylwadau y gofnod yma.
Dwi ogwmpas drwy’r wythnos, felly os oes unrhyw fylchau angen eu llenwi……
Fydda i ar y Maes ar y penwythnos cynta a dwi’n hapus cynnig help WordPress, straeon digidol neu Flickr/delweddau, Gareth
Gareth, dw i wedi ychwanegu dy enw ar y penwythnos cyntaf: http://hedyn.net/wici/G%C5%B5yl_Dechnoleg_Gymraeg_Eisteddfod_Genedlaethol_2012#Pwy_sydd_ar_gael.3F_Pryd.3F
Huw, mae dy enw di yna hefyd. Mae croeso i ti penderfynu pryd wyt ti eisiau cymryd rhan!
Dwi’n fodlon son am “viral marketing” gogyfer a digwyddiadau cyhoeddus/codi arian at elusennau ar y D.Llun neu/ac D.Mawrth…well byth os oes yna ymadrodd yn y Gymraeg am hynny! Fydda i angen D.Mercher a D.Iau i ymarfer a newid mewn i wisg Daf Wyn gogyfer a’r gig Meic Stevens nos Iau! (enghraifft fach i chi fan yna) #starterfor10
Diolch Gareth, Huw a Dai. Edrych mlaen! Bydd cael cymysgedd o bobol efo arbenigeddau gwahanol yno yn help mawr i drio ateb cwestiynau pobol.
Dwi’n gallu helpu gyda WordPress/Soundcloud, a llwytho fideos
Ar YouTube!ac yn hoff Iawn o rhwydweithiau cymdeithasol!:)
Er mwyn ceisio arddangos marchnata fel firws drwy’r wythnos i godi arian (i Gymdeithas yr Iaith), dwi’n gobeithio cael cofnod o gymaint o atebion sy’n bosib i’r cwestiwn syml “beth yw iaith eich Cymdeithas chi?” ar ddydd Llun a dydd Mawrth yn y gefnlen, felly croeso i chi ateb isod as nad y chi ar y maes bryd hynny. + gofynnwch i bawb chi’n nabod i daro draw! Newn ni’n siwr bod Leighton a Marc yn cael gweld yr ymatebion. Diolch
Bethan – pryd wyt ti ar gael yn ystod yr wythnos?