Rhys Llwyd yn siarad am ei thesis Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones:
Dwi wedi gwneud y penderfyniad, dewr efallai, i gyhoeddi fy thesis PhD yma ar y wefan dan drwydded Creative Commons. Dyma rai o’r rhesymau tu ôl y penderfyniad […]
Thesis llawn ar gael o: http://blog.rhysllwyd.com/?p=2001
Crynodeb:
Yr hyn a drafodir yn y traethawd hwn yw cenedlaetholdeb R. Tudur Jones yn ei gyd-destun
hanesyddol a diwinyddol. Byddwn yn ystyried twf cenedlaetholdeb yng Nghymru gan roi
sylw arbennig i gyfraniad rhai Cristnogion i’r mudiad gan holi i ba raddau yr oedd R. Tudur
Jones yn rhan o draddodiad a ddadleuir y perthynai gwŷr fel Michael D. Jones, Emrys ap
Iwan a J. E. Daniel iddo. Gwerthusir cyfraniad R. Tudur Jones i’r mudiad cenedlaethol drwy
ei waith o fewn rhengoedd Plaid Cymru ac hefyd ei gefnogaeth i ymgyrchoedd Cymdeithas yr
Iaith Gymraeg. Yn ogystal, fe drafodir i ba raddau y bu i’w ddiwinyddiaeth ddylanwadu ar ei
wleidyddiaeth a llywio ei weithgarwch gwleidyddol. Yn olaf, fe drafodir asesiad R. Tudur
Jones ei hun o’r Gymru gyfoes a holi i ba raddau y gwelai’r frwydr ysbrydol a gwleidyddol a
wynebai Gymru erbyn diwedd yr Ugeinfed Ganrif fel un frwydr mewn gwirionedd.