Gemau Iaith Glew y Ddraig

http://www.swansea.ac.uk/cy/cofrestrfa/ygymraeg/popethyngymraeg/academihywelteifi/gemauglew/
Y mae’n bleser gan Academi Hywel Teifi gyhoeddi lansio ei chasgliad cyntaf o gemau iaith rhyngweithiol a chyflwyno i chi gymeriad animeiddiedig newydd ac arwr y gemau, Glew y Ddraig.

Mewn cydweithrediad â chwmni Turnip Starfish o Gaerdydd, mae Academi Hywel Teifi wedi dyfeisio a chreu dwy gêm iaith, un ar gyfer siaradwyr iaith gyntaf, sef Glew a’r Gwartheg Gwallgof, a’r ail ar gyfer dysgwyr, sef Gwledd Glew. Y mae’r gemau hwyliog hyn yn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg o bob oedran roi prawf ar eu gallu yn yr iaith ac i ddysgu trwy ddiddanwch a hynny mewn cwmni anghyffredin! Gwarchodwr yr iaith Gymraeg yw Glew y Ddraig, ef sy’n cynnal safonau.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.