Cynulliad yn ailddechrau cyhoeddi Cofnod dwyieithog #ycofnod

Datganiad y wasg:

Comisiwn y Cynulliad yn ailddechrau cyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog ac yn cadarnhau ei ymrwymiad i wasanaethau dwyieithog

Heddiw, cadarnhaodd Comisiwn y Cynulliad ei ymrwymiad i fod yn sefydliad dwyieithog drwy gytuno ar fframwaith newydd a fydd yn rheoli ei wasanaethau dwyieithog.

Rhan hanfodol o’r ymrwymiad hwnnw yw Bil Cynulliad drafft, a fydd yn rhoi sail statudol gadarn i ddyletswyddau’r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ac a fydd yn cyflwyno’r trefniadau ar gyfer llunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd o dan y fframwaith ddeddfwriaethol arfaethedig.

Yn ogystal, penderfynodd y Comisiwn ailddechrau cyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad o fis Ionawr 2012.

Bwriedir cyflawni hyn drwy ddefnyddio systemau cyfieithu peirianyddol a sgiliau arbenigol cyfieithwyr i brawfddarllen a golygu’r gwaith.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg: “Rwyf yn hynod falch fod y Comisiwn wedi cadarnhau’r ymrwymiad a wnaed ym mis Gorffennaf eleni.”

“Rwyf o’r farn fod y ddeddfwriaeth arfaethedig a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn cadarnháu ein hawydd i sicrhau bod y Cynulliad yn gosod esiampl yn y maes hwn.

“Drwy ddefnyddio technoleg ar y cyd â chyfieithwyr proffesiynol, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu Cofnod o safon o drafodion y Cyfarfod Llawn mewn modd effeithiol a chynaliadwy.

“Bydd y model rydym yn ei ddatblygu hefyd o fudd i sefydliadau eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Drwy ddefnyddio technoleg i gyfieithu’r Cofnod, byddwn yn cynyddu cof y system a fydd ar gael i sefydliadau ac unigolion eraill ei ddefnyddio.

“Mae’r penderfyniad hwn yn cadarnhau bwriad Comisiwn y Cynulliad i barhau i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog i sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i bobl Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Yn y cyfarfod heddiw, bu’r Comisiynwyr yn ystyried yr ymatebion a ddaeth i law dros y tri mis diwethaf fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar wasanaethau dwyieithog Comisiwn y Cynulliad.

Mae’r darpariaethau eraill yn y Bil drafft yn cynnwys:

  • Diffinio mewn cyfraith mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad;
  • Gofyniad i’r cynllun ymgorffori gweithdrefn ar gyfer mynd i’r afael â chwynion bod y Cynulliad yn mynd yn groes i egwyddorion y cynllun;
  • Darpariaeth ar gyfer cynhyrchu adroddiadau monitro blynyddol a fydd yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

Nodiadau i’r Golygyddion

2) Gellir trefnu cyfweliadau â Rhodri Glyn Thomas AC drwy ffonio’r Swyddfa Cyswllt â’r Cyfryngau ar 02920 898646.

  • Bydd Cofnod cwbl ddwyieithog o’r trafodion yn cael ei gyhoeddi fis Ionawr 2012;
  • Bydd yn cael ei ddarparu o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl y Cyfarfod Llawn;
  • Bydd trawsgrifiad cwbl ddwyieithog o drafodion y Cyfarfodydd Llawn a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2010 a mis Rhagfyr 2011 yn cael ei gwblhau pan fydd amser a chyllidebau’n caniatáu hynny, yn ystod y toriad yn bennaf;
  • Bydd y Cofnod yn cael ei ddarparu am gost o £95,000 neu ratach;
  • Cytunodd y Comisiwn hefyd i roi £2 filiwn a glustnodwyd ar gyfer costau’r etholiad, ond nas gwariwyd, yn ôl i Floc Cymru. O ganlyniad, bydd yr arian hwn ar gael i Lywodraeth Cymru dalu am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Poeni am y defnydd o ‘gyfieithu peirianyddol’. Ydyn nhw yn sôn am gof cyfieithu (cof o dermau, dim problem) neu cyfieithu peirianyddol go iawn (drwg iawn)?

Mae’r brawddeg yma yn awgrymu cof cyieithu: “Drwy ddefnyddio technoleg i gyfieithu’r Cofnod, byddwn yn cynyddu cof y system a fydd ar gael i sefydliadau ac unigolion eraill ei ddefnyddio.”

Gwnaf i drio ymchwilio.

6 sylw

  1. Cof cyfieithu ddwedodd rhywun ar y radio gynnau. Newyddion da. Dwi ddim yn poeni gormod na fydd cofnod ysgrifenedig ar gael yn hwyrach na’r un Saesneg. Y gynffon hir sy’n bwysig gyda’r cofnod.

    Sgen i os gymeran nhw’r cyfle i ddwygio’r dull mae’r cofnod yn cael ei gyhoeddi arlein fel ei fod yn XML neu rywbeth hygyrch ar gyfer adeiladu arno? Werth holi am hynny rwan dwi’n meddwl. Ydi’r grwp trafod MySociety yna’n dal i fynd? Be fase’r anghenion ar gyfer cael cofnod sydd yn hygyrch?

  2. “Y gynffon hir sy’n bwysig gyda’r cofnod. ” O safbwynt corpws, wir. Ond mae’n dibynnu ar dy ddefnydd. Mae rhai o bobol eisiau darllen beth sydd wedi cael ei thrafod a defnyddio dyfyniadau Cymraeg. “A week is a long time in politics” – Harold Wilson. Dw i’n siwr bydd mwy o syniadau hefyd.

    XML – pwynt da, gwnaf i ofyn

  3. Dw i wedi ebostio pobol yn y Cynulliad.

    Bwydo Google Translate gyda corpws o Google Translate yw B.S.E. deallusol.

Mae'r sylwadau wedi cau.