Cynhadledd NPLD/S4C – diwrnod dau am ‘Gyfryngau Newydd’

Rhaglen lawn a manylion cofrestru: http://www.npld.eu/NewsEvents/Pages/NPLDS4CBroadcastingConference-registrationnowopen.aspx

Dwi’n gwybod bod hi’n teimlo chydig fel bod dim byd *ond* ymgynghori’n mynd mlaen ar hyn o bryd am ddyfydol y cyfryngau, ond os oes chwant clywed ambell beth nad sydd wedi cael ei ddweud eisoes aam fater dyfodol y cyfryngau Cymraeg bydd yn werth mynd ar gyfer clywed gan ddau berson:

Vicent Partal – legend llwyr ieithoedd lleiafrifol arlein. Fe sefydlodd Vilaweb, y brif wefan newyddion lleol a chenedlaethol yn yr iaith Gatalaneg, nôl ym 1996 dim llai. Gwr oedd yn bell o flaen ei amser.

Inako Gurrutxaga – pennaeth cyfrygnau digidol yn EITB, y darlledwr cyhoeddus yng Ngwlad y Basg (gyfrifol am arlwy Basgeg a Sbaeneg). Roedd ganddyn nhw lawer o syniadau diddorol ar waith eisoes flwyddyn yn ôl. Bydd hi’n wych clywed lle maen nhw arnbi erbyn hyn.

Yn y cyfamser…rydyn ni’n ceisio cael pethau i symud yma. Ara bach a bob yn dipyn…

Mae’r gynhadledd am ddim felly brysiwch i gofrestru.