Cydlynydd Prosiect – Sianel 62
Fel prosiect i ddathlu 50 mlwyddiant y Gymdeithas, ac fel protest yn erbyn y diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes, byddwn yn darlledu’n wythnosol ar y we, o sianel y Gymdeithas, Sianel 62.
Rydym yn chwilio am gydlynydd ar gyfer y prosiect hwn a fydd yn annog a hwyluso pobl i allu mynd ati i greu deunydd ar gyfer y sianel. Byddwn yn talu cyflog a chostau ar gyfer y swydd hon – gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb i gyflwyno cynllun manwl i’w roi gerbron cyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith ar 19fed o Dachwedd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Bethan Williams – 07730 252177
Cam bach ond arwyddocaol iawn ymlaen i’r cyfryngau digidol yng Nghymru yn fy marn i, a chyfle gwych i rywun brwdfrydig roi shot ar ffurfio dyfodol darlledu a chynnwys annibynnol yng Nghymru.
Llongfarchiadau i Gymdeithas yr Iaith am fentro gyda hyn a buddsoddiad lle nad oes eraill yn gwneud eto.