Beth yw Doodle?
Mae trefnu cyfarfodydd gallu bod yn her weithiau.
Os wyt ti’n trefnu cyfarfod gydag un person mae’n hawdd – ffonio a threfnu dyddiad.
Ond bob tro rwyt ti’n ychwanegu person arall ac yn trio trefnu trwy ebost mae’n lletchwith. Dyma pryd mae Doodle.com yn defnyddiol iawn – mae un person yn gosod yr opsiynau ac wedyn mae dolen i ‘ffurflen’ bach iawn ar y we gyda’r opsiynau. Dylet ti ei trio tro nesaf yn lle ebost.
Rhai o’r ieithoedd mae Doodle yn cynnig:
English
Deutsch
Français
Italiano
Rumantsch
Brezhoneg
Ceština
Esperanto
Español, …
Ond dim Cymraeg… ar hyn o bryd.
Cyfieithu
Dw i wedi gofyn Doodle os rydyn ni’n gallu cyfieithu’r system i Gymraeg – ac maen nhw wedi ateb gyda’r brawddegau:
https://docs.google.com/spreadsheet/pub?hl=en_GB&hl=en_GB&key=0Ah3kl0HrcZsDdHRDaUphS2hqYmlDLVdOODU2ZzRVUVE&output=html
Gofynna am fynediad i’r dogfen yn y sylwadau isod os ti eisiau helpu.
Manteision?
- Cael teclyn defnyddiol iawn yn Gymraeg
- Brawddegau ar gael i bawb os mae pobol eisiau eu hailddefnyddio
- Enghraifft dda i gwmnïau, gwasanaethau a dylunwyr systemau – mae pobol eisiau darpariaeth Cymraeg
- Enghraifft dda i bobol Cymraeg – mae darpariaeth Cymraeg yn bosib
Ym mhersonol dw i’n fodlon helpu er mwyn sicrhau’r manteision uchod. Mae croeso i ti helpu.
Gai mynediad? Diolch.
Dw i’n caru Doodle – gwasanaeth defnyddiol iawn.
(Wedi cael trafferth golygu’r ddogfen. Os ti wedi danfon gwahaddiad at fy nghyfeiriad ebost @gmail.com, alli di ai ailanfon at @googlemail.com, neu vice-vesa)
Huw a Rhys – dw i wedi’ch gwahodd i’r dogfen. Diolch.
Neges gan Doodle:
Ti angen mwy o help?
Ydw. Newydd dy ychwanegu. Diolch!
Rydyn ni wedi cyflawni 11% o’r cyfieithiad hyd yn hyn!