Cynhwysiant Digidol Cymru – adroddiad a fforwm newydd

Derbynais i e-bost diddorol o Lywodraeth Cymru / Cymunedau 2.0 heddiw

Rwy’n cysylltu â chi fel rhywun sydd wedi bod yn gysylltiedig â materion cynhwysiant digidol yng Nghymru, neu sydd wedi mynegi diddordeb ynddo.

Yn y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd yn 2010, aeth Llywodraeth Cymru ati i sefydlu grŵp rhanddeiliaid cynhwysiant digidol, sef criw a fyddai’n ymroddedig i helpu oedolion yng Nghymru i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Yn y gynhadledd Cynhwysiant Digidol ym mis Rhagfyr 2010, yn dilyn trafodaethau, cytunwyd y dylid datblygu hwn yn grŵp rhithwir.

Mae Fforwm Rhanddeiliaid yn cael ei sefydlu, felly, ar wefan Cynhwysiant Digidol Cymru. Y bwriad yw cynnig cyfrwng i rannu profiadau, gofyn am gyngor gan eraill, a dysgu am yr hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill, yng Nghymru neu mewn gwledydd eraill. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae hwn wedi bod yn faes sy’n datblygu’n gyflym. Caiff y gofod hwn ei ddefnyddio i arddangos y polisi a’r dystiolaeth ddiweddaraf, megis data ar ddiffyg cynhwysiant digidol yng Nghymru. Bydd modd trafod materion sy’n berthnasol i grwpiau allweddol, megis pobl hŷn neu’r rheini sy’n byw mewn tai cymdeithasol, neu themâu megis e-ddarpariaeth ac e-droseddu hefyd.

Bwriedir gwneud y fforwm hwn mor agored â phosibl i bobl roi eu barn ac yna, unwaith bydd yn weithredol, byddwn yn ddiolchgar i gael eich awgrymiadau ynghylch sut i’w wella, ar ba ffurf bynnag.

Gweler isod ddolen i’r Fforwm, ac rwy’n gobeithio y byddwch am gymryd rhan.

(copïwyd gyda chaniatâd)

Dyma’r fforwm http://www.digitalinclusionwales.org.uk

Gawn ni weld sut mae’r trafodaethau yn datblygu.

Mae adroddiad newydd (Awst 2011) sydd yn dadansoddi cynhwysiant digidol yng Nghymru hefyd.

O’n i’n chwilfrydig am siaradwyr Cymraeg, dyma ddarn perthnasol:

Yn ein dadansoddiad o ddata ar lefel Cymru, cafodd rhyw a gallu iaith Gymraeg eu hystyried fel penderfynyddion posibl ar gyfer defnydd o dechnoleg ddigidol, ond ni chanfuwyd unrhyw gysylltiad arwyddocaol â’r naill newidyn neu’r llall.

Unrhyw sylwadau?

Gyda llaw mae’r fforwm wedi cael ei adeiladu ar wasanaeth grou.ps sydd yn debyg i Ning.

1 sylw

  1. A fyddai’n churlish i bwyntio allan bod y wefan yn uniaith Saesneg (ond gydag opswin GoogleTranslate!)?

Mae'r sylwadau wedi cau.