Ymchwilio defnydd y Gymraeg ar Twitter – cofnod gan @rhysjj o Brifysgol Abertawe

Neges gan Rhys Jones:

Helo,

Mae Carl wedi gofyn i fi sgrifennu pwt am y gwaith yr ydyn ni (sef y fi o Brifysgol Abertawe, Daniel Cunliffe o Brifysgol Morgannwg, a Courtenay Honeycutt o Brifysgol Indiana Bloomington) yn ei wneud ar hyn o bryd, sef ymchwilio defnydd y Gymraeg ar Twitter.

Y prif bennawd yw: mae holiadur gyda ni. Os ydych chi’n defnyddio Twitter ac yn deall hwn – sylwch, does dim rhaid i chi fod yn defnyddio Twitter yn Gymraeg – plîs llenwch yr holiadur. Llai na 10 munud o amser, cyfle i ennill tocyn Amazon gwerth £30. Fe fydden ni’n eich caru chi am byth am wneud. Wir.

Pam gwneud y gwaith hwn? Wel, mae’n ffaith amlwg bellach fod yr iaith Gymraeg yn gymharol gryf ar Twitter. Agos iawn at 350000 o ddiweddariadau trwy gyfrwng yr iaith, yn ôl Kevin Scannell a chriw Indigenous Tweets. Dros 2750 o drydarwyr Cymraeg, yn ôl Rhodri ap Dyfrig o’r plwyf hwn.

Ond pam y cryfder hwn? Dyna’r cwestiwn syml i’w ofyn, ond anodd i’w ateb. Ei ateb, fodd bynnag, yw’n her ni, a diolch i chi am eich help. Trwy’r arolwg, rydyn ni’n gobeithio gweld pam fod siaradwyr yr iaith wedi heidio i Twitter yn y fath niferoedd. Ry’n ni’n bwriadu mapio hefyd pa effaith mae Twitter wedi ei gael ar ddefnydd y Gymraeg mewn meysydd eraill ar-lein: oes posib, er enghraifft, rhoi ffigurau ar dranc maes-e, ac a yw Rhys Llwyd yn iawn i ddweud mai Twitter sydd wedi mynd â bryd y digerati Cymraeg yn lle’r wefan honno?

Dyna ofyn digon o gwestiynau. Atebion sydd angen arnom, ac fe allwch chi’n helpu ni gyda’r atebion hynny. Llenwch yr arolwg, rhowch eich adborth, a rydyn ni’n addo adrodd yn ôl ymhen rhyw fis neu ddau, pan fyddwn ni’n medru taflu rhyw ychydig o oleuni ar ymgom yr adar Cymraeg.