Mae Specific Media wedi prynu Myspace. http://paidcontent.org/article/419-specific-media-buys-myspace-for-35-million-news-corp.-to-retain-stake/
Meddyliau…
Roedd Myspace yn ‘cŵl’ am gyfnod. Nawr dyw e ddim. Mae rhai o bobol dal yn ei defnyddio ond beth yw dyfodol y cynnwys a dy broffil ayyb? Does dim gwarant.
Does dim gwahaniaeth mawr chwaith rhwng rhywbeth fel Myspace a rhywbeth fel Facebook neu Twitter yn fy marn i. Mae Facebook yn bywiog nawr ac yn pwerus – rhy pwerus – ond… roedd AOL am gyfnod.
Dyma’r peryg gydag unrhyw beth dan un cwmni platfform heb berthynas ‘cwsmer’ gyda ti, fi, ni. A’r peryg i gynnwys Cymraeg. Dyma pam dw i’n pryderi am raglennu teledu heb unrhyw bresenoldeb tu fas o’r we dros dro.
O leiaf mae Soundcloud, WordPress a Flickr yn gynnig gwasanaethau am dal, gydag opsiwn am ddim. Mae grŵp o gwsmeriaid go iawn gyda hawliau.
O ran rhwydweithiau cymdeithasol rydyn ni angen gwasanaethau i fod mwy fel blogiau – confensiwn/safon agored yn hytrach nag un cwmni gyda’i gwe fach ei hun. Yn y byd cyfryngau cymdeithasol blogiau yw’r unig dechnoleg aeddfed, e.e. mae Dafydd wedi rhedeg ei flog ers 2005 – mae fe’n ychwanegu stwff i’r we. Ond o ran y weledigaeth o adeiladu byd llawn o gynnwys Cymraeg, y freuddwyd, dw i’n teimlo fel bod Facebook yn wastraff o amser.