Derwen-gam yn y cyfryngau – ond pa gyfryngau?

Derwen-gam ac S4C, erthygl o Golwg 360 – geiriau cryf:

Mae trigolion pentref wedi eu siomi gan benderfyniad S4C i beidio â rhoi sylw i gymuned Gymraeg sydd wedi ail-sefydlu yno.
.
.
.

Un o’r rhai a oedd wedi ei wahodd i gyfrannu i’r rhaglen, ac a fu’n rhan o’r protestio yn ôl yn y 1970au, yw’r Parchedig Cen Llwyd, sy’n dweud fod y penderfyniad wedi ei adael “yn grac iawn”.

“Dim ond ddydd Sadwrn ddes i ddeall eu bod nhw wedi tynnu’r plwg ar y rhaglen,” meddai, ac fe gyfeiriodd at hynny yn ei araith ar hanes ymgyrch Derwen-gam yn ystod y cyngerdd.

“Daeth nifer o bobol ata’ i ddydd Sadwrn i ddweud eu bod nhw’n bwriadu cwyno wrth S4C am y penderfyniad … roedd pobol yn grac iawn pan glywon nhw.”

Yn ôl un o drefnwyr y cyngerdd a ddenodd gynulleidfa o 800 o bobol, Carys Morgan, mae’r pentrefwyr eu hunain yn anhapus â’r penderfyniad.

“R’yn ni fel pentrefwyr yn siomedig nad oes rhaglen ddogfen wedi dod ohoni,” meddai, “roedd y gyngerdd ddydd Sadwrn i fod yn gefndir i’r cyfan.”

Er hynny, mae rhaglen Wedi 7 wedi penderfynu y bydd peth o’u harlwy heno yn mynd i ddarlledu rhai o uchafbwyntiau’r cyngerdd ddydd Sadwrn.

Pan gysylltodd Golwg 360 ag S4C y prynhawn yma, dywedodd y sianel eu bod nhw’n awr yn “trafod os oes modd darlledu rhaglen i gynnwys gweddill yr eitemau a recordiwyd yn yr ardal”.

Dw i newydd gweld yr eitem ar Wedi 7 o nos Lun – eitem gyntaf 01:00 ac eitem olaf 21:50 (gyda rhywun o Hacio’r Iaith – syndod!).

Bydd rhaglen llawn neu cyfle i weld y “gynnwys gweddill yr eitemau a recordiwyd yn yr ardal” gan S4C yn ddiddorol iawn – o fy safbwynt. Ond pwy ydw i? Dw i’n byw mewn dinas ac wastad wedi byw mewn trefi neu ddinasoedd. Hoffwn i ddysgu mwy am amcanion trigolion Derwen-gam (ac efallai trigolion yn bentrefi bychain eraill, os mae’n bosib i fod yn gyffredinol i raddau.).

1. Pam yn union oedd y trigolion Derwen-gam eisiau rhaglen ar S4C? Dw i’n gallu trio dyfalu ond beth yw amcanion nhw? Beth yw’r amcanion pwysicaf?

2. Sut ydyn ni’n gallu gwasanaethu’r amcanion yma, efallai rhai ohonyn nhw, gyda chyfryngau digidol – os o gwbl?

e.e. cyfryngau Cymraeg efallai yn bwysig (fyddan nhw yn weddol hapus gyda rhaglen arbennig yn Saesneg?), croesawi Angharad Mair i’r pentref yn bwysig i rai, rhaglen gan bobol proffesiynol, dangos y stori/straeon y pentref i drigolion y pentref, darlledu i niferoedd da o bobol ledled Cymru, y ffactor kudos trwy bod ar S4C fel pentref neu fel unigolion, bydd rhaglen yn ‘digwyddiad’ nodedig, dechrau trafodaeth, ymgyrchu dros ddiddordebau’r pentref?, sylw yn y wasg yn sgil y rhaglen, ‘dilysiad’, dangos i blant…

Yn 2011 dw i ddim yn gweld blogio lleol neu fideo ar-lein ac ati fel cystadleuaeth i deledu neu hyd yn oed papurau bro. Maen nhw i gyd yn bodoli nawr. Ond yng Nghymru ydyn ni’n wneud y gorau o’n cyfryngau digidol?

(Nac ydyn.)

3. Pa mor bwysig ydy’r stori i bobol ledled Cymru? Sut ydyn adlewyrchu’r pwysigrwydd yn y cyfryngau ni’n gallu rheoli?

O ran pobol Cymru a’r ymgyrch yn y 70au, mae Dafydd Iwan yn dweud yn ystod yr eitem gyntaf Wedi 7 “mae’r enw Derwen-gam, mewn ffordd, yn atseinio fel Tryweryn i ryw raddau”. Efallai wir ond dyw e ddim yn atseinio llawer ar-lein. Un cymhariaeth, doedd dim byd ar YouTube pan nes i chwilio am ‘Derwen-gam’, ‘Derwen Gam’ ayyb. Mae dim ond 6 llun ar Flickr am yr un chwiliadau. 7 nawr achos dw i newydd ychwanegu llun arall.

Sylwadau? Yma i ddysgu.

5 sylw

  1. Mae’n dipyn o warth nad oedd rhywbeth gwell na Wedi 7 ar S4C i gofnodi hyn. Ar hyn o bryd ‘Lleol/Y gymuned’ ydy thema ar gyfer rhagleni presenol y sianel. meddwl bod ail-gomisiynnu cyfresi uber-shite fel Bro yn ddigon da!
    Do’n i erioed wedi clywed am y Dderwen-gam, felly mae S4C yn gwendu cam (esgusodwch y pun!) gyda’r cyhoedd drwy beidio a’n haddysgu am ddigwydidadu mor arwyddocaeol, ond fel ti’n deud, mae hi’n 2011 ar mae’n bosib i unrhyw un gyhoeddi eu stori heddiw i’r byd i gyd – fideo YouTube, erthygl ar y Wicipedia Cymraeg (a ieithoedd eraill), gwefan/blog lleol….

    “Get a podcast, butt”

  2. Iawn, mae’r ‘byd i gyd’ yn wir – fel potensial. Ond mae lot o gyfleoedd os rydyn ni’n siarad ar-lein gyda 10 o bobol ledled Cymru neu 100.

    Gawn ni archwilio pam dydyn ni ddim yn gymryd mantais o’r cyfleoedd yma?

    O’n i’n sôn am 2011 (yn hytrach na 3000) achos mae cyd-destun penodol gyda ni ac mae cymysgiad o gyfryngau gyda ni. Mae pobol yn deall manteision ‘y cyfryngau’ yn barod (efallai). Felly beth sy’n bod?

    Rydyn ni wedi adnabod yr uber-problem felly beth yw’r problemau bychain?

    “Get a podcast, butt” Beth yw e? Pam? Sut? Methu ffeindio canllaw yn Gymraeg… Neu enghreifftiau i ddangos y peth… Efallai dylen ni ddechrau gyda phodlediad sy’n esbonio gyda thermau mae lleygwr o unrhyw gefndir yn gallu deall…

  3. Ond ar y llaw arall, efallai does dim rhaid i ni greu canllaw. Mae pobol yn gwerthfawrogi cyfryngau Cymraeg ac mae rhai ohonyn nhw yn fodlon mynd i’r carchar dros gyfryngau Cymraeg. Beth yn union yw’r atalfeydd?

  4. Ie, mae “Get a podcast, butt” yn ateb rhy hawdd, ac yn cymryd yn ganiataol bod pawb gyda’r un ‘dealltwriaeth’ a ni. Tra bod canllawiau yn yr iath yn holl bwysig, mae enghreifftiau yn bwysicach (yn fy marn i), gan y gall ‘pawb’, mewn theori, fynd a chwilio a darganfod canllawiau mewn iaith arall maen nhw’n ddeall.

    Mae gwir angen rhyw fath o gynllun o weithdai lleol ar draws ein cymunedau i ddangos y dechnoleg.

Mae'r sylwadau wedi cau.