Hyfforddiant: rhaglennu a datblygu ar gyfer y cyfryngau

Mae Cyfle yn cynnig cwrs sydd yn rhoi hyfforddiant rhaglennu a datblygu meddalwedd, gyda ffocws penodol ar y cyfryngau. Dwi’n meddwl ei bod hi’n andros o bwysig datblygu’r maes yma yng Nghymru, felly mae’n wych bod cwrs o’r fath ar gael. Dyma’r manylion:

DELTA DIGIDOL 2 – RHAGLENWYR A DATBLYGWYR (PgCert – 6 mis)

Edrych am ffordd i fewn i fyd gêmau, app’s â’r cyfryngau creadigol?

Ydi’r canlynol yn gyfarwydd i chi? Javascript / jQuery / HTML / Actionscript / PHP / .Net / Python / Objective-C?

Be’ sy’n cael ei gynnig? – mynediad uniongyrchol i bobl broffesiynol o’r diwydiant am gyfnod o chwe mis o ddysgu rhan-amser i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf. Dim ond yr wyth ymgeisydd gorau fydd yn cael cynnig lle ar y cwrs – Oes gen ti’r hyn sydd ei angen?

‘Dwi erioed wedi gweithio mor galed na wedi dysgu gymaint…ond oherwydd Cyfle â’r cwrs dwi bellach yn gwneud be dwi’n ei garu fel bywoliaeth.’ Ciron Gruffydd, Cyn-Hyffordai Aml-lwyfan Cyfle

***********

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, 6ed o Fehefin 2011
  • Cynhelir y cyfweliadau ar y 13eg, 14egâ’r 15fedo Fehefin 2011
  • Dyddiad dechrau’r cynllun: 18fedo Orffennaf 2011

Mae manylion llawn ar wefan Cyfle.