“Ystyr” vs. “Profiadau”

http://blog.tommorris.org/post/3216687621/im-not-an-experience-seeking-user-im-a

If I’m on my deathbed, will I regret the fact that I haven’t collected all the badges on Foursquare? Will I pine for more exciting and delightful user experiences? That’s the ultimate test. You want a design challenge? Design things people won’t regret doing when they are on their deathbed and design things people will wish they did more of when they are on their deathbed. Design things that one’s relatives will look back in fifty years and express sympathy for. Again, when you are dead, will your kids give a shit about your Foursquare badges?

4 sylw

  1. Cofnod blog gwych!

    […] turning things into games and novelties in order to mask the underlying valuelessness of these tasks.

    Ond mae elfen o ‘gamification’ wedi helpu i greu ystyr a gwerth hefyd. Gweler: Facebook Translate.

    Un ateb sydd gen i: creu. Dim ond trwy greu wyt ti’n creu ystyr dy hun. Lluniau, mashups, cofnodion blog. Dyw sgwennu ar Twitter a Facebook ddim yn greu. Mae’n fwy phatic.

    Eto, mae’n dod lawr at y ‘barrier to entry’. Y lleiaf y rhwystr, y lleiaf y gwerth cymdeithasol/ystyrol/diwylliannol.

    Dyma yw dadl Shirky yn Cognitive Surplus: sef bod hi’n hawdd creu sdwff ar-lein (er ei fod o’n dweud bod na ryw werth i LOLcats), a bod y rhyngrwyd yn gwneiud hi’n haws creu sdwff ar y cyd, ond mae’n rhaid gwneud ymdrech i wneud y stwff sydd wir yn mynd i newid ein byd, ac felly y byd yn ehangach. [Gol: Newydd ddarllen ymhellach lawr y gofnod a gweld bod o wedi sôn am Shirky!]

    Dwi’n amau bydd plant fy mhlant yn edrych ar fy tweets neu fy sylwadau ar Facebook (nac efallai’n gallu), ond dwi’n gobeithio y bydden nhw’n ffeindio rhywbeth diddorol amdana i a fy oes yn fy mlogiau, lluniau, fideos a chynnyrch creadigol eraill, yn yr un ffordd a dwi’n ffeindio llyfr cerddi Tryfanog yn ddiddorol a dalennol 90 mlynedd ar ol iddo ei gyhoeddi.

  2. Sylw gwych!

    O’n i’n licio Facebook Translate fel syniad hefyd, mae’r ‘gemeiddiad’ yn dda. Ond y peth yw, ti’n dweud dyw sgwennu ar Facebook ddim yn greu go iawn, dyw e ddim yn werth lot, felly dyw Facebook Cymraeg fel ‘project’ ddim yn werth gymaint chwaith. Huh? Mae’n fersiwn mawr o “turning things into games and novelties in order to mask the underlying valuelessness of these tasks”! Proc mawr. Mae Zuck wedi ein procio. Felly? Jyst gofyn.

    Dyddiau yma dw i’n hoffi blogio mwy a mwy. A dw i’n licio Facebook llai a llai…

    Gyda llaw dw i’n meddwl bod Facebook Cymraeg yn lledrith weithiau achos mae’r shifft ieithyddol yn y cynnwys yn rhy bwerus. Efallai Twitter hefyd. Roedd Maes-E lot mwy llwyddianus fel cymuned Cymraeg arlein. Ble mae’r cymunedau Cymraeg arlein nawr? (Heblaw Hacio’r Iaith wrth gwrs..!)

    Yn gyffredinol, ymdrech yw’r gair yma. YMDRECH!

  3. Wel dyma ni gwestiwn dwys.

    Ystyr ydi bod. Beth yw pwrpas bywyd? Ydw i’n gywir i ddweud na bodoli yw’r prif bwrpas?

    Os yn sôn am bethau megis Facebook a Twitter, mae cyfarch pobl ac ail-adrodd be ma rhywun arall wedi ei ddweud ar Twitter neu Facebook heb dim i’w wneud a bod. Mae’r bod yn digwydd yn y byd ffisegol. Bywyd rhithiol yw popeth ar-lein. Os yn anwybyddu cof ‘solid-state’, mae’r holl wybodaeth yn bodoli fel gwybodaeth electromagnetic, boed ar dapiau neu ddisgiau caled magneteg, neu ar ffurf golau lawr ffibrau opteg, neu fel sŵn ar modem. Does dim ‘mater’ yn cael ei ddefnyddio, a mater yw’r peth sy’n bod.

    Os mae sôn am greu, boed ar ffurf ysgrif, llun, fideo mae’n gopi gwan o’r hyn sydd wedi bod. Mae llun dim ond yn dangos golau yn cyrraedd lens camera, dim o’r aroglion na sŵn. Ond eto mae’n argraffiad rhannol o rywbeth sydd wedi bod.

    Os yn sôn am fathodynau Foursquare neu Gowalla, does dim ystyr iddynt o gwbwl. Os nad ydynt yn gallu craffu o gwbwl beth oedd yn bod, does dim ystyr iddynt. Mae sôn dy fod yn rhywle yn dweud dim am dy fodolaeth yn lle ene.

Mae'r sylwadau wedi cau.