cyfieithiad Android i’r Gymraeg
Ydy unrhyw un yn gweithio ar gyfieithiad Android? Siarada nawr!
Os nad oes neb, dyn ni’n dechrau cyfieithu wythnos yma!
Gyda llaw, gadawa sylw os ti eisiau cyfrannu i’r cyfieithiad, diolch.
Ydy unrhyw un yn gweithio ar gyfieithiad Android? Siarada nawr!
Os nad oes neb, dyn ni’n dechrau cyfieithu wythnos yma!
Gyda llaw, gadawa sylw os ti eisiau cyfrannu i’r cyfieithiad, diolch.
Dafydd Tomos 10:42 PM ar 18 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Wnai helpu.. (sdim ffon Android gen i ond dwi’n cael un yn fuan)
Sioned 12:55 PM ar 19 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Byddai’n falch o helpu, swnio’n brosiect da.
Colin Nosworthy 1:26 PM ar 19 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Mae Carl wedi penodi fi fel y person sy’n gyfrifol am drefnu hwn – er does gen i ddim clem ble i ddechrau.!!
Carl Morris 1:36 PM ar 19 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Ar y dechrau. Peth yw, ti wastad yn gofyn amdano fe felly dylet ti bod yn champion.
Oes arsefydliad Pootle gydag unrhyw un? Os nag oes, gwnaf i osod e rhywle.
Gruff Prys 12:40 PM ar 20 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Hoffwn i gyfrannu at hyn. Ga i awgrymu fod termau ac ymadroddion allweddol Android yn cael eu hadnabod a’u safoni yn gyntaf, cyn dechrau’r cyfieithu go iawn? Bydd hyn wir yn helpu cadw cysondeb os bydd nifer yn cyfrannu at y cyfieithu.
Hedd 7:52 PM ar 20 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Byddai’n wych pe byddai mod arsefydlu Pootle yn rhywle yn benodol ar gyfer cyfieithu pob math o raglenni i’r Gymraeg. Dwi wedi cychwyn cyfieithu nifer o raglenni yn y gorffennol mewn gwahanol lefydd ond wedi rhoi lan cyn gorffen oherwydd diffyg amser. Pe byddai’r holl gyfieithiadau yn cael eu gwneud mewn un lle byddai’n help mawr 🙂 Oes lle ar haciaith.cymru ?
Huw 8:34 PM ar 21 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Nai helpu! Dwi di defnyddio Pootle o’r blaen ond wedi anghofio sut yr oedd yn gweithio. Ydi o’n bosib cynnig sawl term am un ‘string’ Saesneg, wedyn dod i gytundeb ar ôl rhoi popeth mewn cyd-destun?
Aled 2:11 PM ar 26 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Hoffwn i fod o gymorth
Carl Morris 8:19 PM ar 8 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol
Datganiad yn fuan, sori!
Christopher Swift 1:54 AM ar 19 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol
Rwy’n deall bod neb yn gweithio ar gyfieithiad Android. Os ydych chi eisiau, rwy’n gallu helpu gwneud Pootle ar fy VPS (Virtual Private Server) sy’n rhedeg Ubuntu ac Apache. Gallem gofrestru androidcymraeg.org i’w gynnal fe.
Carl Morris 3:30 PM ar 19 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol
Christopher, cer amdani. Gadawa sylw fan hyn pan fydd e’n barod. Diolch am y cynnig.
Carl Morris 4:26 PM ar 7 Ionawr 2011 Dolen Barhaol
Fi bach yn stuc gyda hwn. Gobeithio dyn ni’n gallu dechrau yn ein sesiwn Hacio’r Iaith.
Huw 8:36 PM ar 13 Ionawr 2011 Dolen Barhaol
Oes rwbeth yn digwydd efo hwn? Dwi di cael ffôn Android o’r diwedd, a wedi bod yn edyrch ar sut i addasu’r peth a chreu ‘locale’ newydd.
Irfon 1:51 PM ar 22 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Meddwl cael “ffon clyfar” cyn bo hir – ydi hwn di symud ymlaen o gwbl? Gwell gobaith cael android yn Gymraeg nac unrhywbeth Apple am wn i?
Carl Morris 4:02 PM ar 4 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol
Sori am yr oediad Irfon, roeddet ti yn y sbam am ryw reswm.
Cytuno gyda’r agwedd gwrth-Apple ym mhersonol!
Dim newyddion hyd yn hyn am Android Cymraeg – dw i’n meddwl?
Roger Bamkin 12:04 PM ar 17 Mawrth 2012 Dolen Barhaol
Sorry – not Welsh. However I’m very involved with the MonmouthpediA project which is trying to encourage the use of Welsh on Smart phones in Monmouth. Lots of profile with BBC, Wikipedia, Couty Council etc. At present QRpedia codes work in 100 languages including Welsh – but we cannot find a Welsh phone. Can you help? All of this ggoglable if you need more. I’m victuallers at gmail