Mae erthygl ar Golwg360 o dan y teitl Llai o radio a theledu Cymraeg gan y BBC, yn trafod torriadau yn y nifer o oriau o ddarlledu cynnwys gwreiddiol fydd ar Radio Cymru ac bydd mwy o ail ddarlledu. Nid trafod y cwtogi ydw i eisiau yma (gellir gwneud hynny fan hyn), ond yn hytrach y newyddion hyn:
…[bydd] Maggi Dodd yn cyflwyno rhaglen ar y we rhwng 7-8 gyda’r rhaglen honno, Dodd ar y We yn cael ei hailddarlledu ar C2 rhwng hanner nos ac un y bore.
Tra nad yw cwtogi oriau yn amlwg yn beth da, mae arbrofi gyda darlledu ar-lein yn syniad dewr. Dyma’r union raglen y dylid arbrofi gyda hi, gan mai ei chynulledfa darged yw’r kids, ac os ydy unrhyw un am wrando ar radio ar-lein, nhw ydy’r rheini.
Yn bersonol, dw i ddim wrandawr mawr ar radio, ond mae digwydd bod stereo yn ein ystafell fyw, ystafell fwyta a’n cegin ni, felly mater hawdd iawn yw troi’r radio ymlaen. Gan bod cysylltiad di-wifr gyda ni acw, mae’n dod yn haws symud y gliniadur o un ystafell i’r llall, ond dw i’n dal i’w weld bach o ffaff (am y rheswm yma, mond unwaith dw i wedi ‘tiwnio i mewn’ i Radio Shwmae, er mawr cywilydd i mi) . Gyda datblygiadau pellach mewn technoleg a chysylltiadau gwell i’r we, mae’n siwr daw gwrando ar-lein yn beth haws a mwy naturiol.
Yr unig beryg efallai yw y gwelith Llywodraeth Llundain hyn fel esgus i gwtogi pellach a dweud gall popeth fynd a- lein, ond mewn gwirionnedd, rheswm dros fwy o sianeli/gorsafoedd fydd hyn.
Ydi “Dod ar y We” ddim jest yn slang am wefannau pr0n?
Diddorol. Dw i eisiau sioe radio am y we!
Err, diolch am y sylw “bob”.
Wel ia, yn union – mae hi’n 2010 a hyd y gwydda i, does dim un rhaglen ar Radio Cymru wedi trafod y ‘ffenomena diweddaraf’ yma a elwir ‘y we’, (ag eithrio ambell gwestin twp).
Beth am ddanfon proposal rhaglen atynt?!
O’n i’n rhan o gynnig atynt ar y trywydd hwn tua blwyddyn yn ol. Dim lwc yn anffodus.
O’r gofrestr ebost C2