Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho.
Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd cynulleidfa fel yna. Byddai’n ddiddorol gwybod faint ddefnyddiodd o ar y maes ei hun.
Sgwn i a fydd yna fersiwn Android y flwyddyn nesa?
Yn sicr, roedd yn app gwerth yr arian, os am y map yn unig. Roedd rhai elfennau yn ddibynnol ar gyswllt data, oedd yn amharu braidd oherwydd y diffyg oedd yna yng Nglyn Ebwy. Mae’n siwr o fod yn dipyn cryfach yn ardal Wrecsam, os nad cyswllt 3G, fydd yn gwella’r profiad.
Oes na bethau hoffech chi weld arno?
Dywedodd Ambrose Choy wrth Golwg360 eu bod nhw eisiau marchnata’r rhaglen yn well cyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
“Dw i’n meddwl y bydd yr Eisteddfod yn gwneud mwy fyth o waith marchnata’r flwyddyn nesaf,” meddai cyn dweud eu bod yn cyfarfod gyda threfnwyr yr ŵyl ym mis Medi er mwyn trafod y dyfodol.
Newyddion da, er beth fyddai’n fuddiol yw petai’r cyfarfod yma’n un agored (ac yn cael ei hysbysebu) gan y gall fod o ddiddordeb i ‘ddarpar-ddarparwyr’ newydd ddod i wybod pa fath o wybodaeth o flae llaw sydd gan yr Eisteddfod a allant ei ddefnyddio, ac i nodi pa wasnaaethau gallant ddarparu.
Mae ffaith bod 1,000 wedi ei lawrlwytho yn ffigwr reit uchel o’i gymharu a faint sy’n ymweld â’r ‘Steddofd ei hun.
Llongyfarchiadau iddyn nhw am do figwr fast o lawrlwyddo