Pen Talar, PenTalarPedia a MediaWiki

Pen Talar – y wici answyddogol

Ro’n i eisiau esbonio’r cefndir technolegol tu ôl PenTalarPedia (syniad gwreiddiol gan Menna):

Gwnes i ddefnyddio MediaWiki gyda croen Vector (yr un meddalwedd a chroen â Wicipedia). Mae’n ddefnyddio PHP a mySQL (fel WordPress).

Gosod: 30 munud neu llai gyda logo newydd. Dw i wedi tynnu mas ieithoedd eraill heblaw Cymraeg a Saesneg – arbed amser lanlwytho.

Angen ychydig mwy o waith SEO hefyd (e.e. mae Google yn dangos y wici ar tudalen 5 am chwiliad “Pen Talar”, dylai fe bod ar tudalen 1). Bydd teitlau bespoke yn helpu.

Tyfu’r cymuned: pwnc gwahanol. Ond dylet ti ymuno. Lot o hwyl.

Dw i’n rili hoffi MediaWiki nawr. (Dw i wedi trio MediaWiki o blaen ond mae’n teimlo rili neis nawr am ryw reswm.). Dw i eisiau symud Hedyn o DokuWiki i MediaWiki ond dw i angen Dydd Sadwrn llawn! Mae lot o ddolenni yn dybynnu arno fe, angen sgwennu 301 redirects i ddal pob dolen. Dw i’n casáu dolenni sydd wedi torri.

9 sylw

  1. Gwaith da a syniad ardderchog. Gobeithio ddalith o’r dychymyg.Mae cod MediaWiki (fel cod un rhyw wiki) yn gallu bod yn ddryslyd i newbie (newyddun?) – falle ei bod yn werth gosod dolen amlwg rhywle at gyfarwyddiadau fformatio sydd ar gael ar Wicipedia?

    Dw i eisiau symud Hedyn o DokuWiki i MediaWiki ond dw i angen Dydd Sadwrn llawn!

    Byddwn i’n hoff o weld Hedyn yn gweithio gyda MediaWki ganmod i’n lot mwy cyfarwydd gyda’r cod ac mae’n llawer mwy hyblyg (+ galla i wedyn fynd ymlaen gyda fy syniad o gategoreiddio blogiau Cymraeg).

    Mae lot o ddolenni yn dybynnu arno fe, angen sgwennu 301 redirects i ddal pob dolen.
    Os ydy hyn yn golygu lot o waith ailadroddus y gall mwnci ei wneud, baswn i’n fodlon helpu rhyw bnawn Sadwrn gwlyb.

  2. Rhys, swnio’n dda. Dylen ni trefnu dyddiad gweithdy Hedyn. Os mae unrhyw un arall eisiau helpu, gadawa sylw yma. Diolch.

    PenTalarPedia – Dw i wedi trwsio’r teitlau am fwy o SEO. Mae Google yn darllen y teitlau felly dw i wedi rhoi “Pen Talar”, geiriau ar wahan ar bob tudalen.

    Mae Twiki yn opsiwn arall gyda WYSIWYG, efallai mwy cyfeillgar i ddefnyddwyr. Efallai tro nesaf. CywPedia neu rywbeth.
    🙂

  3. Dwi’n nabod rhywun sydd eisiau dechrau rhywbeth wici-aidd ond sydd ddim rhy keen ar markup Wikipediaidd. A fyddai hwn yn testbed da ar gyfer Twiki?

  4. Chwarae teg i Annette, tra bod sawl person wedi cyfrannu at y fersiwn CYmraeg, hi yn unig sydd wedi ei gyfieithu i’r Almaeneg.

    Falle dylid meddwl am roi dolen o bob erthygl Almaeng i’r gwreiddiol Cymraeg (a vice-versa) – jobyn i rhywun sy’n wiki obsessive

    …pam bod pawb yn edrych arna i?

  5. Dw i eisiau ychwanegu dolenni fel fersiynau gwahanol Wicipedia. Profi…

Mae'r sylwadau wedi cau.