Cynhadledd Opentech 2010

Dyma ychydig o nodiadau am beth ddysgais neu welais yng nghynhadledd OpenTech 2010. Mae manylion pwy oedd yno, a rhagor, ar Lanyrd.

Cafodd y gynhadledd ei noddi eleni gan data.gov.uk a’r sesiynau am ddata oedd yr rhai oedd o ddiddordeb pennaf i mi. Efallai i mai’r sesiwn cyntaf oedd y mwyaf diddorol o’m safbwynt i. Cawsom wybod am gefndir data.gov.uk ond yn benodol cawsom ddemo o Gridworks. (Google bia fe nawr a dywedwyd eu bod yn mynd i newid ei enw cyn bo hir). Mae Gridworks yn edrych fel teclyn a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol i lanhau data ac mae hefyd yn gallu allforio data i fformat rdf. Mae’r cofnod blog yma yn egluro sut mae ei ddefnyddio.

Soniaf am un sesiwn arall, un gynhwysodd gyflwyniad gan Phil Gyford am greu gwefan gan ddefnyddio API Platfform Agored y Guardian sy’n cyflwyno rhywbeth tebyg i gopi papur y Guardian: http://www.guardian.gyford.com/. Mae’n werth rhoi golwg arno.

Gan Hywel Jones

Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.

2 sylw

  1. Diolch Hywel. Es i i OpenTech yn 2009. Baswn i wedi blogio fe yma ond mae Hacio’r Iaith wedi bodoli am 8-9 mis yn unig! Gwnaethon nhw trafod Guardian API a Data Store hefyd llynedd. Digwyddiad gwych.

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Google Refine | Hacio'r Iaith

Mae'r sylwadau wedi cau.