Mae @waleshome newydd wedi cyhoeddi 2 erthygl yn Gymraeg – a oes dyfodol?

Mae WalesHome wedi bod yn llwyddiannus fel rhywle i ddarllen erthyglau o safon – am gwleidyddiaeth fel arfer.

Dw i wedi meddwl am y diffyg cynnwys gwleidyddol yn Gymraeg felly mae’n neis i weld 2 erthygl Cymraeg yna.

Amser i ddefro i Gymru (sut i ennill refferendwm – 0 sylw)
Time to wake up for Wales
(yr un erthygl fersiwn Saesneg – 7 sylw)

Darlledu: Cam nesaf datganoli
(unigryw i Gymraeg – ond 9 sylw Saesneg, 1 sylw Cymraeg bore ‘ma)

Dw i’n croesawi Darlledu: Cam nesaf datganoli yn enwedig – dyn ni angen cynnwys unigryw yn Gymraeg. Mae Google Translate yn bodoli am bobol di-Gymraeg!

Un o fy hoff rhannau o WalesHome yw’r sylwadau. Dw i’n meddwl bod y sylwadau yn well na ei cydymgeiswyr yn yr un categori o flogiau gwleidyddol yn Saesneg (Betsan Powys BBC, Wales Online / Western Mail). Fel arfer mae pobol yn cwrtais gyda enwau go iawn. Gyda llaw, faint o gymedroli dych chi’n wneud tîm WalesHome?

Dyma cyfle i gefnogi gyda dy sylwadau.

Dyw sylwadau ddim yn bopeth i llwyddiant blogio wrth gwrs. Ond bydd e’n ddiddorol i weld blog dwyieithog go iawn.

Beth yw etiquette aml-ieithog? Dw i’n dilyn iaith y cofnod fel arfer.

Fydd y sylwadau wastad yn mynd i Saesneg (fel Darlledu: Cam nesaf datganoli)?

Allai’r ‘brand’ newid i flog dwyieithog? Neu ydy e’n rhy hwyr i ddechrau cofnodion Cymraeg?

Pa fath o ddwyieithog?

12 sylw

  1. Mae’n dda iawn fod yna beth stwff Cymraeg nawr yn ymddangos ar WalesHome, ond y gwir amdani yw fod angen gwasanaeth cynhwysfawr tebyg i WalesHome yn Gymraeg. Gyda stwff dwyieithog mae’r Saesneg wastad mynd i gael y flaenoriaeth ac mi fydd y sgwrs (hynny yw y sylwadau yn achos blog) yn sicr wastad yn troi at y Saesneg. Os byddai’r di-Gymraeg yn dysgu Cymraeg fel wyt ti wedi Carl yna byddai hi’n stori wahanol, ond yn anffodus ‘dy ni’n gwneud hi rhy hawdd i bobl fedru byw a dilyn gyrfa yng Nghymru heb ddysgu’r Gymraeg.

    Rwy’n cytuno gyda Gareth Miles na chaw ni wir Gymry ddwyieithog tan fod pawb yn siarad Cymraeg, hynny yw fod pawb yn siarad Saesneg a’r Gymraeg.

    Dwi’n ffafrio stwff uniaith Gymraeg, fel S4C, Coleg Ffederal Cymraeg, Eisteddfod ayyb… hynny yw sefyllfaoedd lle mae’r Gymraeg yn cael yr hawl i fod yn iaith ‘normal’ heb orfod troi i’r Saesneg. Dim ond mewn sefydliadau a chyhoeddiadau uniaith Gymraeg mae’r iaith yn cael yr hawl i fod yn iaith ‘normal’, mewn unrhyw gyd-destun arall, er gwaetha’r ewyllys da, fydd y Gymraeg byth yn fwy na tocenistiaeth.

  2. Mae’n ddatblygioad diddorol. Er cystal yw safon yr erthyglau ar WalesHome, mae’r sylwadau yn aml yn gallu mynd yn ddiflas ac y i lawr yr un cul-de-sac.

    Roedd yn diddorol na chwynodd neb am erthygl yn Gymraeg, ac fel soniodd y cyntaf i adael sylw (John Tyler, nid un o garedigion pennaf yr iaith Gymraeg), roedd darllen yr erthygl drwy GoogleTranslate yn ddigon iddo deall cynnwys yr erthygl.

    Unwaith mae sylwadau’n dechrau cael eu rhoi yn Saesneg, byddai’n anodd wedyn newid i’r Gymraeg (er bod GoogleTranslate yna i’r un sydd ei angen.

    Amser i ddefro i Gymru (sut i ennill refferendwm – 0 sylw)
    Time to wake up for Wales (yr un erthygl fersiwn Saesneg – 7 sylw)
    Darlledu: Cam nesaf datganoli (unigryw i Gymraeg – ond 9 sylw Saesneg, 1 sylw Cymraeg )

    Pan mae’r un erthygl ar gael yn y ddwy iaith, dw i’n meddwl mai’r un patrwm fydd bob tro – pawb yn gadael sylw’n Saesneg.

    Er na fydd yn gwarantu bydd y sylwadau’n Gymraeg, credaf bod cael ychydig o erthyglau gwreiddiol ac yn y Gymraeg yn unig yn bwysicach na llawer o erthyglau wedi eu trosi o’r Saesneg.

    (Dw i ddim 100% ond ydy hi”n bosib byd y sylw Cymraeg a ferswin Cymraeg Darran wedi ei creu drwy ddefnyddio GoogleTranslate? – mae un neu ddau brawddeg yn swnio’n chwithig,ond gall hyn fod gan nad yw’r ddau awdur wedi sgwennu’n Gymraeg yn ddwieddar).

  3. Dw i’n cytuno bois.

    Rhys Llwyd, hollol. (Bydda i ychwanegu Theatr Genedlaethol i’r gofrestr hefyd!)

    Roedd S4C angen ymgyrch, deddf newydd, ayyb. Ar y we dyn ni angen amser, syniadau a chod agored YN UNIG.

    Mae “cymunedau arlein” dwyieithog yn maes astudiaeth diddorol iawn (e.e. gwaith Daniel Cunliffe). Dw i ddim yn hapus gyda aml-ieithyddiaeth ar unrhyw gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, e.e. Facebook, Twitter. Baswn i croesawi rhywbeth amlieithog go iawn.

    Ond yn sicr dyn ni angen “cymunedau arlein” a “sianelau chyfryngau” unieithog. ANGEN. NAWR.

    Dw i’n cytuno gyda ti a Gareth Miles. Dw i’n cytuno gyda Guardian ayyb hefyd. Os ti’n postio sylw yn unrhyw iaith ar y Guardian dyn nhw ddim yn ei derbyn. Pam ddylen nhw? Mae fe’n papur Saesneg. Rhaid i ni tyfu ein cymunedau ein hun.

    Dw i eisiau gweld Cymraeg fel iaith i drafod unrhyw beth a phopeth arlein. Dyma pam wnes i dechrau Y Twll – fel “atodiad celfyddydol dychymyg mewn Y Byd”. Dw i dal yn croesawi cyfraniadau.
    🙂
    Dylet ti sgwennu rhywbeth (neu gwneud fideo – o leia). Mae’r plant yn aros, maen nhw yn ymweld gwefan 50 Cent yn lle.

    OND yn anffodus dyw Cymraeg ddim yn opsiwn diofn bob tro. Er enghraifft, mae hwn yn eitha sili – erthygl am S4C gan siaradwr Cymraeg ond yn Saesneg.

    Os dyn ni ddim yn gallu llenwi’r we gyda erthyglau Cymraeg am GYMRU, beth yw’r gobaith o we Gymraeg am bethau rhyngwladol?

    Rhys Llwyd, dylet ti dechrau’r blog gwleidyddol! Pwy arall fasai?

    Gyda llaw, mae gyda fi project debyg ar y ffordd…

  4. Dwi’n cytuno Rhys fod safon yr erthyglau Cymraeg ar WalesHome ddim cystal â’r rhai Saesneg. Ond maen nhw’n rhy dda i fod wedi eu creu ar Google Translate, dwi’n amau mae Darran sydd allan o’r arfer o sgwennu ffurfiol ar destun proffesiynol yn Gymraeg. Mae’n debyg fod gwers fan hyn hefyd i’r ‘Gymru ddwyieithog’ – dydy crap ar y Gymraeg ddim yn eich gwneud chi’n gyflawn ddwyieithog. Rhaid medru trin y ddwy iaith cystal a’i gilydd mewn swyddi proffesiynnol.

    Dwi’n meddwl fod angen blog Gwleidyddol Cymraeg, rhywbeth tebyg i beth ddaeth Metastwnsh i’r byd technoleg. Ond mae yna rai ffactorau sy’n milwrio yn erbyn hyn, ac yn bersonol mi fasw ni felly ddim am fod yn rhan o brosiect tebyg. Un o gryfderau WalesHome yw bod gen ti ystod dra eang o safbwyntiau yn cael eu cynrychioli gan y cyfranwyr. Byddai hi’n anodd cael amrediad eang o safbwyntiau ar wefan Gymraeg ac yn bersonol buaswn i ddim am gael rôl olygyddol ar wefan sy’n cyhoeddi stwff gan unoliaethwyr, pobol sy’n amheus o ehangu hawliau siaradwyr Cymraeg, safbwyntiau gwrth-Gristnogol ac a ti. Nid mod i ddim am fynd i drafodaeth gyda’r bobl yma (oherwydd mi ydw i mewn llefydd eraill), ond dydw i ddim chwaith am gyhoeddi syniadau’r bobl yma.

    Yn anorfod, a ddim bod hwn yn beth drwg o’r rheidrwydd, mi fyddai gan y WalesHome Cymraeg ogwydd tuag at Blaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith.

    Rhan o lwyddiant WalesHome hefyd yw bod pobl fel Darran, a rhai o’r cyfranwyr eraill, yn gweithio yn y byd gwleidyddol beth bynnag. Ac felly maen nhw’n gallu gwneud y gwaith fel rhan atodol o’u gwaith bob dydd. Fel Metastwnsh, fyddai hynny ddim yn bosib gyda rhywbeth tebyg i WalesHome yn Gymraeg gan y byddai’n anorfod yn dibynnu ar amaturiaid fel ni.

    Ond wrth gwrs mae gyda ni flogwyr sydd yn trafod gwleidyddiaeth yn Gymraeg, er mod i yn genedlaetholwr fi ydy’r unig flogiwr gwleidyddol sydd ddim yn Flogiwr Plaid. Mae Guto Dafydd, Blog Menai etc….. i gyd yn flogwyr pro-Plaid.

    Fy ateb felly…? Dwi ddim yn gwybod! Ond dwi’n meddwl fod tystiolaeth yn dangos mae’r blogiau mwyaf poblogaidd ydy rhai arbennigol. Mae fy mlog Cymraeg i’n trafod popeth tra fod fy mlog Saesneg i’n trafod ffydd yn unig. Mae darlleniad y blog Saesneg yn sylweddol uwch ond nid oherwydd ei fod yn Saesneg dwi ddim yn meddwl, ond yn hytrach mod i wedi ffeindio ffans gan mod i’n blogio ar un pwnc yn unig.

  5. Hen hen ddadleuon sy’n uffernol o boring i Gymry Cymraeg. Pan mae arian yn brin dwi’n meddwl fod pobl yn eiddigeddus o’r arian (weddol gyfyngedig mewn gwirionedd ond yn reit sicr) sy’n cael ei roi i sefydliadau Cymraeg.

    I fynd ychydig oddi ar y pwnc neu falle pwnc cysylltiedig, dwi’n meddwl fod tueddiad i ddiwylliant Cymraeg fod yn or-ddibynnol ar sefydliadau mawr. Mae hyn yn naturiol i raddau.. mae angen cyfuno cynulleidfaoedd er mwyn cael critical mass. Felly er enghraifft mae’r Eisteddfod yn cronni diwylliant Cymraeg ond eisiau tyfu ac ehangu o hyd – mae hyn er mwyn dangos ‘poblogrwydd’. Mae’r un peth yn wir am S4C – mae’n rhaid iddo apelio at pawb a phopeth i bob oedran ac am bob testun dan haul. Mae hyn yn ‘cyfiawnhau’ y gwariant. Sdim byth sôn am greu ffynonellau amgen o greu cynnwys Cymraeg ar sianeli eraill neu’r we neu yn wir unrhyw gyfrwng arall – mi fyddai hyn yn “gwanhau’r” sianel.

    Dyw’r pwyntiau uchod ddim yn rai newydd iawn chwaith, ond mae’r ddadl yn anoddach mewn amseroedd caled.. y demtasiwn o hyd wedyn (gan wleidyddion yn enwedig) yw cyfuno popeth mewn i llai o sefydliadau ond rhai mwy, eto yn enw ‘arbed arian’.

  6. Cytuno gyda Dafydd, eiddugedd o dŷ’r Cymry di-Gymraeg yw’r unig beth sy’n gyrru pobl i alw ar S4C a’r Theatr Genedlaethol i droi yn seyfliadau dwyieithog. Eiddugedd a diffyg dealltwriaeth o hanfon diwylliant lleiafrifol. Does ond rhaid edrych ar y cannoedd o sianeli Seasneg neu ymlwybro mewn i HMC, Odeon neu Cineworld i sylwi nad oes angen leg up ar y diwylliant Saesneg.

    Wrth gwrs mae yna gwestiynnau sy’n rhaid eu wynebu o ran y diwylliant anglo-Gymreig, ond a bod yn onest fe ddyliai diwylliant 75% o bobl Cymru (y rhai di-Gymraeg) medru gofalu ar ol ei hun yn annibynol ac yn fasnachol. Ac er mod i’n gweld fod yna ddiffyg diwylliant anglo-Gymreig gynghenid yng Nghymru, a bod yn onest does fawr o ots gen i!

  7. Mae’n dibynnu arnoch chi ac eich polisi blog – termau, amodau, “rheolau’r tŷ”. Dylen nhw fod yn gyson a chyhoeddus rhywle ar eich gwefan.

    Er enghraifft mae BBC yn dileu sylwadau di-Saesneg ar rhai o’u blogiau.

    Ond mae BBC yn glir iawn.
    http://www.bbc.co.uk/terms/#5

  8. Ti’n iawn, mater berchenog y blog ydy o. Dw i’n siwr mai allan o ‘gwrteisi’* yr ymatebodd Ifan yn Saesneg wedyn, ond roedd y sawl a adawodd sylw unai ‘n deall Cymraeg ysgrifeniedig, neu wedi defnyddio GoogleTranslate i allu darllen y cofnod gwreiddiol y ny lle cyntaf, felly doedd dim angen ymateb yn Saesneg ‘sbo.

    *gwendid mwya’r y Cymry Cymraeg

  9. Dyn ni angen mwy o ‘gwmnïau cyfryngau unieithog’ Cymraeg (dw i’n gallu gweld gwahaniaeth rhwng y categori a blogiau personol).

    Dyma beth dw i’n trio wneud gyda Y Twll (heb cyllideb).

    Er enghraifft, dw i’n osgoi retweets o Saesneg, dw i’n cyfieithu yn lle.
    e.e. http://twitter.com/ytwll/status/19777629822

    Mwy am drafodaeth isod. Wrth gwrs rwyt ti wedi gweld nhw yn barod.

    sylw Cymraeg
    http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/aug/17/five-hour-car-protest-grangetown-use-of-welsh-south-wales-police?showallcomments=true#CommentKey:6f3e0e17-a824-48fd-9eca-75d66f3c874e

    ateb gan Guardian
    http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/aug/17/five-hour-car-protest-grangetown-use-of-welsh-south-wales-police?showallcomments=true#CommentKey:9b28fe30-76e9-4733-b652-f313539dfe53

    atebion gan mississumner / benbore, y dirgel
    http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/aug/17/five-hour-car-protest-grangetown-use-of-welsh-south-wales-police?showallcomments=true#CommentKey:baeac775-77ef-46e0-9de8-41c4aab1ea5e

Mae'r sylwadau wedi cau.