Diweddariad Cysgliad ar gael ar gyfer Windows 7 (Cysill / Cysgeir)

http://murmur.bangor.ac.uk/?p=103

Cysill
Rhaglen sy’n canfod ac yn cywiro camgymeriadau ieithyddol mewn dogfennau Cymraeg yw Cysill. Mae’n gallu adnabod camgymeriadau teipio, sillafu a gramadeg, gan gynnwys camdreiglo. Yn ogystal ag awgrymu cywiriadau lle bo’u hangen, yn achos camgymeriadau gramadegol mae’n egluro natur y gwall er mwyn eich helpu i osgoi’r gwall yn y dyfodol.

Cysgeir
Rhaglen arall sydd i’w chael o fewn Cysgliad yw Cysgeir, sef casgliad o nifer o eiriaduron gwahanol ar ffurf electronig cyfleus. Mae’n cynnwys cannoedd ar filoedd o gofnodion, ond eto mae’n hawdd dod o hyd i’r cofnod perthnasol yn gyflym diolch i’w ryngwyneb clyfar, cyfeillgar.

1 sylw

  1. Beth sy wedi digwydd i Cysgliad i’r Mac, oedd e’n am ddim yn wreiddiol?

Mae'r sylwadau wedi cau.