Dw i’n sicr fod ti’n nabod y stori wreiddiol.
Dw i’n gweld y stori hon yn y siart BBC yn aml iawn. Mae pobol ryngwladol DAL yn ffeindio fe nawr.
Mae e’n un o’r straeon mwyaf poblogaidd am Gymraeg arlein – erioed!
Chwilia am “swyddfa” ar Google, y cofnod Language Hat am y stori BBC yw’r canlyniad CYNTAF.
Nes i stopio chwerthin misoedd yn ôl. Ond ro’n i eisiau gofyn – ydy’r agwedd pobol a phroffil Cymraeg arlein yn bwysig i ti? Beth allan ni dysgu am farnau pobol ddi-Gymraeg arlein?
Ydy’r barnau yn y sylwadau yma yn bwysig i ti?
http://boingboing.net/2008/10/31/email-error-on-road.html
Ydyn ni’n gallu creu “cynnwys” positif am bobol tu allan y cylch? Dylen ni meddwl am ddysgwyr a phlant hefyd.
Neu ydy pethau fel hyn yn digwydd ar hap?
A’i agwedd anffodus canran sylwedol o’r boblogaeth tuag at y Gymraeg (a ieithoedd bychain eraill) ydy o neu jyst hoffter pobl o storiau gwirion (gweler y storis poblogaidd eraill)?
Pa bynnag un ydy o, ti’n iawn mai mond yng nghyd-destun straeon gwirion fel hyn mae’r di-Gymraeg yn darllen unrhywbeth am y Gymraeg.
Ydyn ni’n gallu creu “cynnwys” positif am bobol tu allan y cylch? Dylen ni meddwl am ddysgwyr a phlant hefyd.
Tra bod portreadu delwedd mor bositif o’r iaith a gwrthbrofi rhagfarnau di-sail yn bwysig iawn (dyna oedd prif fwriad seftydlu fy mlog Saesneg Smiling under Buses), mae’n fwy o flaenoriaeth creu cynnwys cyffrous, diddorol a pherthnasol yn Gymraeg. Dwi ddim yn dweud bod eisiau stiocio’n pennau yn y tywod, ond dw i’n ceisio peidio colli gormod o gwsg am beth mae pobl anwybodus yn feddwl am yr iaith a fedrwch chi byth newid agwedd rhai.
Dwedais i’r un pethau anwybodus yn y gorffenol. Dw i wedi dysgu llawer…
Dw i wedi dysgu… fod pobol beniog yn gallu dweud pethau dwl hefyd.
e.e. http://twitter.com/bengoldacre/status/10533126485
Gyda llaw, chwarae teg am Smiling under Buses, roedd e’n un o’r blogiau cyntaf gwelais i ar y we Cymraeg. Dw i dal yn darllen yr hen gofnodion.