Newyddion lleol

Dw i’n meddwl am newyddion lleol ar ôl sylw Rhodri.

Mae llawer o bobol o gwmpas y byd yn rhedeg gwefannau hyperlocal yn barod.

e.e. King’s Cross
http://www.kingscrossenvironment.com
mae cyfranwyr yn “safonol”, unrhyw oedran http://www.kingscrossenvironment.com/contact.html

Mae’n hawdd iawn i ddechrau rhywbeth fel hwn am dy gymuned…

14 sylw

  1. Mae hyn mor hawdd i’w creu, mae’n, criminal bron nad oes rhai Cymraeg yn bodoli (newydd ffeindio http://caerdydd.biz/ ). Gelli’r danfon timau (fel SWAT teams!) i ardaloedd penodol a threfnu gweithdai, efallai ar ffurf End Bloglessness.

    Efallai dylai’r Thema WordPress nesa i’w leoleiddio fod yn un ar gyfer cylchgrawn?

    Rhai enghreifftiau o flogiau/wefannau lleol Cymreig:
    http://rhuthun.blogspot.com/ (canolbyntio ar iechyd y stryd fawr yn fwy na newyddion)
    http://www.capturecardiff.com/ (waw, cynhwysfawr!)
    http://www.llandaffnews.com/

  2. O’n i’n meddwl fod Menter Caerdydd tu ôl caerdydd.biz (pam dewis .biz? Pam!?). Penri Williams wnaeth ei greu e – mae’n enwog am greu cannoedd o wefannau echrydus o ran dylunio, ond lled-ddefnyddiol o ran gwybodaeth (a mi fydde nhw hyd yn oed yn fwy defnyddiol gyda cynllun a strwythur call). Dwi’n meddwl fod llawer o’r newyddion yn cael ei ‘fenthyg’ o wahanol lefydd a’r digwyddiadau o Menter Caerdydd.

  3. Dwi wedi cael syniad wythnos hyn a hoffwn i gael eich ymateb:

    Roeddwn i’n flin iawn i glywed fod y siop lle dwi’n prynu fy esgudiau, Sodlau Swanci, Heol y Bont, Caerfyrddin, wedi cau. Er i fi gael lot o swtff yno ar y sêl clirio stoc, ro’n i’n anhapus iawn achos ro’n i wrth fy modd gyda’r siop a gadawyd fi gyda’r cwestiwn – lle dwi’n mynd i brynu sgidiau nawr?

    Y peth yw, doedd lot o bobl sy’n siopa yng Nghaerfyrddin yn aml ddim yn gwybod am y siop tan i fi ddweud wrthyn nhw, ac os nad oes ganddoch chi’r wybodaeth leol mae’n gallu bod yn anodd ffeindio siopau da yma.

    Felly, y syniad yw gwefan gyda gwybodaeth am siopau annibynnol da gyda’r pwyslais o helpu bobl i ddod i wybod am siopau da. Hoffwn i weld map o Gymru, a pan chi’n symud drosto Caerfyrddin mae na arwydd yn popio fyny yn dweud 6 siop ddillad, 3 siop fwyd, 2 siop amrywiol (dibynnu faint o siopau o Gaerfyrddin sydd wedi eu rhestru) Wedyn bydde modd mynd i ‘siopau esgudiau Caerfyrddin’, clicio ar enw’r siop a darllen adolygiad o’r siop gan rywun sydd wedi bod yno. Byddai adolygiad yn cynnwys beth mae’r siop yn gwerthu, gwybodaeth am brisiau, gwasanaeth etc Bydd gwybodaeth am siop yn ymddangos dim ond os oes ganddon ni adolygiad o’r siop (ac wrth adolygiad, ddim eisiau pethau tu hwnt o feirniadol achos mae’n rhaid bod yn ymwybodol o chwaethau gwahanol pobl felly rhaid i’r adolygiad son am y profiad o siopa yno a be gall pobl ei ddisgwyl – heb fod yn ddisgrifiad moel basically – achos mae’r profiad o siopa mewn siopau annibynnol yn hollol wahanol i siopau cadwyn).

    Dwi ddim yn gwybod union sut ond hoffwn i wneud ychydig o arian i dalu adolygwyr (dim i ddechrau wrth gwrs ond nes ymlaen) Y rheolau yw: 1) rhaid i’r siop fod yn annibynnol 2) rhaid fod yr adolygwr wedi bod yn y siop! Roeddwn i’n meddwl dechrau gyda siopau ffasiwn i ddechrau a gweithio mas o fan na, ond mae’n dibynnu pwy sydd a diddordeb cyfrannu hefyd.

    Gobeithio byddai pobl eisiau cyfrannu a sgwennu rhywbeth byr am eu hoff siop er mwyn rhannu’r gwybodaeth gyda pobl eraill am siopau da (ac wrth gwrs hybu siopau annibynnol yr un pryd ond y nod yw ffeindio siopau bach da ym mhob rhan o Gymru)

    Menna

    Re Penri Williams, credu mai fe sy’n rhedeg gwefan Mudiadau Dathlu’r Gymraeg http://www.dathlu.org/index.php

  4. Menna, dw i’n hoffi’r syniad.

    Dw i’n hapus i adeiladu’r wefan. Fy athroniaeth yw:
    Dechrau rhywbeth nawr
    Tyfu dros amser

    Cynnwys yw’r peth pwysicach. Efallai dechrau gyda 20-30 erthygl – cyn “lansiad”. Ti’n gallu gwneud mapiau a phopeth hwyrach. Dw i’n hapus i gyfrannu heb arian ar y cychwyn.

    Enw
    Ro’n i’n mynd i awgrymu “Pethau Bychain”. Dw i’n hoffi “chain” ar y diwedd. Ond mae rhywun yn defnyddio’r un enw yn barod. Enw yw’r peth nesaf?

  5. Menna, byddai diddordeb mawr gyda fi gyfrannu at wefan o’r fath (cyn belled nad dim siopai sgidiau merched yn unig fydd arno). Fel mae’n digwydd, mae @iwan1davies yn adeiladu rhywbeth tebyg fel rhan o’r gwrs prifysgol, ond roedd problem technegol gyda fo yn ystod Hacio’r Iaith, felly ges i ddim cyfle i’w weld.

    Mae nifer fawr o wefannau adolygu i’w cael wrth gwrs, ond dim un yn Gymraeg, ac mae’r unig un sy’n canolbwyntio ar Gymru yn eitha symol.

    Fy hoff un i ydy qype,com a dw i'n tagio llefydd ble mae gwasanaeth Cymraeg arno.

    Mae Chris Cope wedi meddwl am rhywbeth tebyg hefyd:

    Un peth dw i ddim yn cydfynd a ti yw talu pobl am eu adolygiadau. Efallai bod modd rhoi anrhegion neu rhywbeth fel gwobr i’r cyfranwyr mwyaff ffyddlo, ond yn y bon dylai’r gallu bod a ffordd hawdd i ddarllen barn/cyngor/awgrymiadau pobl eraill like minded am lefydd eraill fod yn ddigon o wobr i bobl yn fy marn i.

    Liciwn i weld rhywbeth fel hyn ar gyfer bwytai (upmarket) Cymru. Mae’r adolygiadau yn Barn yn wych a byddai adeiladu gwefan/gwasnaeth o amgylch eu hadolygiadu nhw, gan fanteisio e eu ‘brand’ yn syniad da yn fy marn i.

    Yr unig broblem gyda Chymru yn arbennig yn Gymu Cymraeg yw e fod mor fach a bod pawb yn nabod pawb, ac felly efallai ofn pechu gyda adolygiadau gwael.

  6. Diolch Rhys.

    Dwi’n hoffi gwefan qype – mae’n edrych fel y fath o beth o’n i’n meddwl amdano.

    Yr unig beth yw dwi ddim eisiau gwefan sydd on yn rhestru llefydd Cymraeg, sy’n cael ei redeg gan Gymry Cymraeg yn unig – mae’n siwr bod rhai pobl yn chwilio am rhywbeth fel hyn ond dwi ddim eisiau hynna. O ran hybu’r Gymraeg, fy syniad i yw y byddai’r adolygiad yn cynnwys un frawddeg yn cyfeirio at a oes gwasanaeth Cymraeg ar gael e.e. ‘Roedd yn braf gweld arwyddion Cymraeg ac roedd y ferch tu ôl y til yn ceisio deall pan nes i siarad Cymraeg â hi’ neu ‘Er ei bod hi’n dda iawn siopa yno, roedd hi’n siomedig nad oedd un arwydd Cymraeg ag ystyried ei bod yng Nghaerfyrddin.’ Yn ogystal â rhoi gwybodaeth i’r darllenydd, mae hefyd yn rhoi neges i’r siop bod hyn yn bwysig i’r cwsmer yng Nghymru (credu gallen ni ebostio dolen i’r adolygiad at y siop falle?)

    O ran talu adolygwyr – fi’n cytuno gyda ti am yr egwyddor. O’n i jyst yn meddwl os mae’n mynd yn dda galle fod ffordd o wneud arian, neu bod y siopau yn rhoi ‘vouchers’ ar y wefan neu rhywbeth!

    Dwi’n dwli ar adolygiadau Barn hefyd…gallen ni gael dwy ran i’r adran _siopau a _bwytai os bydde rhywun arall eisiau rhedeg yr adran fwytai? Gad fi wybod os oes diddordeb gyda ti.

    Pan dwi’n darllen cylchgrawn Lonely Planet dwi’n hoffi edrych ar y maps bach o ardaloedd lle mae gyda nhw dots gwahanol lliwiau am lle bwyta, siopau a atyniadau, sy’n gret achos os dwi’n gweld clwstwr o wahanol liwiau ar bwys ei gilydd dwi’n meddwl ‘w, gallen i fynd i’r amgueddfa yna, siop yna ac wedyn i’r caffi dros y ffordd’.

    Dwi wedi meddwl am enw posib: Lle Da
    Achos ma pobl o hyd yn dweud ‘ma hwnna’n le da i….’ neu ‘….. – lle da!’
    http://www.lleda.com

  7. Cytuna gyda ti na ddylid dim ond cynnwys busnesau sydd a siaradwyr Cymrag yn unig, ac mai cael gwefan a chynnwys Cymraeg yw’r bwriad. Ta beth, mae ambell gyfeiriadur busnes Cymraeg yn bodoli, e.e. http://www.llearywe.com, a gobeithio bydd http://www.lleolimi.co.uk/ yn fyw yn fuan).

    Mae siopa a bwyta yn mynd law yn llaw, felly gall y ddau beth gyd fynd ar un gwefan.

    O ran mapiau, pan dw i’n ymweld a dinas newydd, dw i wastad eisiau syniad o pa mor agos at ei gilydd fydd popeth dw i am ymweld a nhw. Dw i’n eitha licio Tagzania (roedd rhyngwyneb Cymraeg, ond mae wedi diflannu ers uwchraddio), ond galli di greu rhai hefyd yn defnydio MyMaps ar GoogleMaps (fel wnaeth Rhys Llwyd)

    Mae’r enw’n holl bwysig, a tra dw i’n meddwl bod Lle Da yn enw grêt, rhaid bod yn ofalus na all yr URL fod ag ystyr amgen (Ai jyst fi sydd a meddwl brwnt yn gweld http://www.lleda.com yn ddoniol?….)

  8. Nes i feddwl am syniad Menna heddiw, tra’n breuddwydio mewn darlith!

    Gwefan sy’n rhestru cwmniau detholedig (nid pawb) yn ôl tref neu’r nwyddau a werthwyd. Bydd gwybodaeth sylfaenol am y cwmni, enw’r siop, cyfeiriad, rhif ffôn. Yn ogsytal a hyn mae adolygiadau gan gwsmeriaid gyda’r gallu i gofnodi sylw a sawl seren allan o bump – fel system Amazon, a rhoi cymhariaeth o sylwadau – dangos sylw am un adolygiad a gafodd 5 seren ochr yn ochr ag adolygiad a gafodd 1 seren.

    Y ffactor unigryw am hyn yw defnyddio system goleuadau traffig fel lliw cefndir. Gwyrdd am wasanaeth cwbwl Gymraeg, oren am wasanaeth rhannol Cymraeg (e.e. un aelod o staff), coch am ddim Cymraeg.

    Ffyrdd o wneud pres allan o’r wefan yw: cynnig derbyn hysbysiadau am siopau a’u nodi fel siop ag argymhellwyd, fel Google a’u ‘recommended link/sponsored link’; cynnig wasanaeth o brosesu archebiadau arlein i gwmniau, fel Amazon marketplace; gwerthu rhaglen iPhone o’r wefan sy’n gallu eich cyfeirio at siopau cyfagos gydsa GPS etc.

  9. Dwi am drio arbrawf bach. Cadwch lygad ar baecolwyn.com dros y misoedd nesa. Dim byd yno eto ond dwi’n gobeithio creu adnodd sy’n debyg i abergelepost.com – ond yn Gymraeg y tro hwn.

Mae'r sylwadau wedi cau.