Mae eisoes trafod am ddatblygu ar sylfaen Hacio’r Iaith a gwneud digwyddiadau pellach. Dyma ddau syniad a drafodwyd hyd yn hyn (teitlau dors dro di’r rhain gyda llaw!):
1. Hacio’r Ymgyrch – digwyddiad yn dod ag ymgyrchwyr a rhaglennwyr at eu gilydd i gydweithio a dysgu am sut i ddefnyddio’r we ar gyfer ymgyrchu llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg.
2. Hacio’r Fideo – digwyddiad yn edrych ar gynnwys fideo ar-lein cyfrwng Cymraeg.
Sgynnoch chi sylwadau ar y rhain, neu syniadau eraill?
Dau syniad gwych!
3. Hacio’r Lleol – eto, digwyddiad i ddod â phobl sydd eisiau dechrau rhywbeth at ei gilydd gyda’r rheiny all roi gwybodaeth ar sut i wneud hynny. Mae angen chwyldro ar gyfryngau lleol Cymraeg yn fy marn i. Mae Papurau Bro yn troi yn eu hunfan heb unrhyw siawns o ddenu cyfrannwyr newydd. Pwy sydd eisiau newyddion lleol unwaith bob mis? Ma isio fo rwan! Oes modd creu cenhedlaeth newydd o sylwebwyr lleol drwy ddefnyddio technoleg i’r eithaf? Wrth gwrs – ma jest angen y bobol i’w ddechrau…
Waw – syniadau gwych. Mae gen i ddiddordeb ym mhob un, ond y syniad am ymgyrchu yn enwedig. Dwi wedi bod yn gofyn i raglennwyr dawnus ers amser os oes modd gwneud rhywbeth fel hyn ond ar gyfer ymgyrchwyr iaith?: http://apps.facebook.com/superbadger/ a http://besuperbadger.wordpress.com/
Mae Superbadger yn lobio cwmniau/llywodraeth am faterion fel masnach teg, polisiau newid hinsawdd, cynorthwyo cymunedau tlawd y byd. Mae modd danfon ebost yn syth o facebook, ac er fod geiriad y llythyr yno’n barod mae’n nhw’n gofyn i chi bersonoli’r llythyr. Byddai rhaglen fel hyn yn wych ar gyfer aelodau Cymdeithas yr Iaith sydd eisiau ffordd cyflymach a haws (a hwyliog) o lobio. Ni wedi trio ebostio o’n gwefan, ond mae modd i’r Llywodraeth flocio’r cyfeiriad wedyn.
Ymgyrch/lobio – diddorol. Mae popeth ar mysociety.org yw côd agored os ti eisiau cyfrannu cyfieithiad neu dechrau fersiwn eich hun…
Lleol – hoffi. Dylai pobol (gyda diddordeb) dilyn digwyddiadau led led y byd hefyd, e.e. Hyperlocal news.
Mae arbenigaeth wastad yn wych!
Mae’r wefan gyda ni yn barod. Felly os chi eisiau gwahodd pobol eraill i drafod syniadau yma, mae’n bosib. (Paid colli dy syniadau mewn ebost, plis!)
Dw i’n awgrymu dyn ni’n defnyddio’r enw “Hacio’r Iaith” gyda isdeitl bob tro. Pam? Dyn ni wedi cael digwyddiad llwyddiannus yn barod. Mae cymuned yn bodoli yn barod, gyda brand digon da (am pynciau technolegol yn enwedig). Nawr dyn ni’n gallu adeiladu’r cymuned mwy. Gobeithio dyn ni’n gallu rhannu dealltwriaeth rhwng arbenigaethau gwahanol.
e.e. Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Fideo Arlein
e.e. Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Newyddion Lleol
(neu isdeitlau debyg)
Efallai’n wir mai trefnu sesiynnau mwy ‘arbennigol’ yw’r ffordd ymlaen.
Ymgyrchu
Dw i’n siwr byddai Hacio’r Ymgyrch yn dal y dychymyg. Hoffwn i wedl rhywbeth fel What Do They Know yn cael ei addasu ar gyfer gohebiaeth rhwng unigolion a sefydliadau/cwmniau. Dw i wedi llythyru rhai fel unigolyn, ond byddai hyn yn dangos fain to bobl eraill sydd hefyd wedi bod yn cysylltu a’r sefydliadau/cwmniau, a beth oedd eu hymateb. Fel nododd Carl, gan mai MySocieety sydd wedi creu’r wefan, mae’n god agored, ac felly mae modd ei addasu i’n gofynion ni efallai.
Newyddion lleol – am ymateb i gofnod newydd Carl