Tagiwyd fel: Hacio’r Iaith Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys
-
Rhodri ap Dyfrig
-
Rhodri ap Dyfrig
Hacio’r Iaith wedi dechrau! 055YM!
HWRE! Da ni wedi cychwyn. Cyffrous iawn yn wir. Ma na griw da yma a’r dechnoleg yn gweithio (phew!).
Ma pawb wedi cael paned a thrafod trefn y dydd a da ni di penderfynu bod mewn sesiwn efo’n gilydd i ddechrau wedyn splitio i stafelloedd gwahanol ar ôl hynny.
A dyma fi yn y sesiwn gyntaf sydd yn edrych ar ddogfen ymgynghorol y Llywodraeth: Iaith Fyw, Iaith Byw a’r rhannau sy’n berthbnasol i dechnoleg.
Dyma gofnod gan Daniel Cunliffe amdano: http://datblogu.weblog.glam.ac.uk/2010/12/13/iaith-fyw-iaith-byw
-
Carl Morris
Os mae unrhyw un sy wedi dod eisiau cyfrif blogio ar haciaith.cymru, gofynna. Diolch
-
-
Sioned Mills
Croeso i’r Haclediad
“Henffych ddarpar wrandawyr!
Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!”Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad.
Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w thŷ, mae digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio!
Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.cymru.
[display_podcast]
Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi!
Criw’r Haclediad
O.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan.
Diolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com-
Rhodri ap Dyfrig
Woo hoo!
-
Mari
Hwreee! Diolch bois!
-
Carl Morris
w00t!
Newydd ychwanegu dolen Haclediad i’r bar ar y dde
-
-
Rhodri ap Dyfrig
Hacio’r Iaith 2
Mae hi’n teimlo fel amser maith ers cynhaliwyd y digwyddiad Hacio’r Iaith 1af rwan, felly mae’n amser dechrau bwrw iddi i drefnu’r ail un. Dwi’n credu bod yr ymateb wedi bod cystal i’r un gyntaf y bydd yr ail hyd yn oed yn well.
O sgwrs ddechreuol gyda ambell berson y consensws ydi y dylen ni ei gynnal tua’r un amser a llynedd, sef diwedd Ionawr, a defnyddio’r un cyfleusterau hefyd gan eu bod yn hawdd i’w cael ac yn bosib eu cael am ddim. Dwi’n credu bod digon o le i ni dyfu a gwella yn y gofod oedd ganddon ni, ac efallai byddai defnydd o un stwidio fawr yn bosib ar gyfer cael pawb at eu gilydd gyda ychydig o drefnu o flaen llaw.
Mi fydd yna dudalen Wiki newydd ar gyfer y digwyddiad ar Hedyn cyn bo hir fel y gallwn ni drafod y manylion yn agored, ond cyn bod hynny’n digwydd oes yna syniadau pendant ganddoch chi ar gyfer yr ail un a beth ddylen ni drio ei wneud?
Mi gasgla i’r holl atebion (dwi wedi rhoi’r ebost hwn yn Bcc rhag ofn bod pobol ddim isio cyhoeddi eu ebost i bawb). Bydd yn fan dechrau da ar gyfer trafod ar y wici.
Mae rhai syniadau pendant ganddon ni ar sut i’w wella, ond hoffwn i glywed ganddoch chi yn gyntaf. Be da chi’n feddwl?
Hwyl am y tro
Rhods
-
Carl Morris
Dyn ni’n newid Hedyn felly nai postio rhywbeth yma pan fydd y tudalen yn barod.
Dw i’n hoffi Aberystwyth fel lleoliad.
Hoffwn i weld sesiwn am fideo arlein Rhodri. Efallai 2 peth. Beth wyt ti’n dysgu trwy fideobobdydd? Sut ydw i’n gallu creu fideos da gyda Flipcam? Tips sylfaenol.
Hefyd efallai sesiwn gan Rhys Wynne am Wicipedia Cymraeg – mwy am y broject, ond golygu hefyd.
(Dw i wedi enwi y dau ohonoch chi achos dych chi’n dod a dych chi’n iawn gyda fe!)
Yn gyffredinol dw i eisiau mwy o sesiynau ymarferol – sut i wneud podlediad, cerddoriaeth (gan cerddor). Technoleg yn y “byd go iawn”. Dyn ni’n disgwyl mwy o bobol sy’n defnyddio technoleg fel ‘na – gobeithio.
Sgwrs am bapurau bro arlein? Dylen ni meddwl am fformatau sy’n gweithio arlein.
Dw i eisiau gweld sesiwn gan Elin Haf Gruffydd Jones hefyd – unrhyw beth.
🙂Enw
Dyn ni wedi cael 6 Hacio’r Iaith Bach o leia ers Hacio’r Iaith Mawr cyntaf yn Aberystwyth (mis Ionawr eleni!). Dylen ni meddwl am y ffordd gorau i hyrwyddo hwn ac i annog/helpu pobol i drefnu “cyfarfodydd” lleol (gyda’r enw Hacio’r Iaith neu unrhyw enw arall). -
Iwan Davies
Shwmae pawb! Rwy’n gwethio i Telemat (Antur Teifi) nawr a rydym gyda diddordeb yn Hacio Iaith. Fel cwmni ni yn neud IT B2B a rhai B2C mewn Cymraeg. Hefyd ni yn gallu cyflenwi broadband 3G, 4G a Satellite yng Nghymru. Basically ni yn neud bron a fod popeth… Edrych mlaen at y Hacio’r iaith nesa 😀
-
Rhodri ap Dyfrig
Yn sicr, hoffwn i weld cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg ar-lein yn dod y tro hwn: pobol fideo, cerddoriaeth, blogio, delweddau.
Mae angen hefyd trefnu rhaio o’r sesiynau o flaen llaw – gan gadw nifer o slots ar gyfer unrhywun sydd eisiau cyflwyno ar y dydd. Efallai 50/50. Roedd y system Open Grid chydig yn rhy freeform efallai.
-
Rhys Wynne
Maen ahebygol y bydda i yna yn anffodus gan bydd babi mis oed gyda fi gobeithio erbyn hynny.
Mae un neu ddau myfyriwr yn Aber wedi bod yn cyfrannu tipyn at y Wiicipedia’n ddiweddar, efallai gallaf eu hannog nhw i roi sesiwn.
-
Marc Thomas
Hoffe ni ddod i roi cyflwyniad ar safle we Cymraeg newydd Lleol.net, fedrai rhoi cyflwyniad yn son am hanes y wefan, syniadau a’r dyfodol.
-
Hywel M
Gobeithio y gallaf ddod. O ran dysgu, byddwn yn hoffi gweld sesiynau ymarferol, e.e. ar Google App Inventor ar gyfer Android neu Fusion Tables (http://code.google.com/intl/cy-GB/apis/fusiontables/). Oes arbennigwr Cymraeg ar y rheini yn rhywle tybed? O ran cyfrannu, mae gen i fymryn o brofiad yn defnyddio Yahoo Pipes, Google Refine a ScraperWiki ymhlith pethau eraill a phe bai diddordeb hwyrach y gallwn arwain sesiwn neu roi cyflwyniad o ryw fath.
-
Mei
Dwi’n gobeithio dod. Dwi’n cynnig rhoi ‘workshop’ ar WordPress dwyieithog. Os oes digon o alw, nai ddechra paratoi rwbath.
Rhys Wynne – mae gen i dri! Dim esgus… 😉
-
Rhys Wynne
Mae’r uchod yn swnio’n rhy ddiddorol i’w fethu, felly caiff y babi fwydo a newid ei glwt ei hun.
Beth am neilltuo slot awr ar gyfer cyflwyniadau mini – slotiau ‘Dw i’n CAOLN….’ lle mae gan rhwyun 10 munud i ddweud pam eu bod yn caru gwasanaeth, gwefan, app neu darn o kit arbennig. Baswn i’n gwenud un am delicious.com
-
Carl Morris
Dw i’n CAOLN Anologue
-
Nici Beech
Oes na ddyddiad pendant dan sylw? Faswn i wrth fy modd yn dod tro ma
-
Carl Morris
Nici, dyn ni’n meddwl am ddiwedd mis Ionawr 2011.
Efallai Dydd Gwener a Dydd Sadwrn gyda’n gilydd.
-
Carl Morris
Newydd trwsio sylw Rhys.
-
Rhodri ap Dyfrig
Diolch i bawb am eich sylwadau, dyma rai dwi wedi eu derbyn drwy ebost:
– creu gwefannau dwyieithog gyda CMSs cod agored fel WordPress, Drupal, ayb
– rhywbeth am lleol.net
– sut i greu gwefan newyddion hyperlocal Cymraegtrafod technoleg yng nghyd-destun yr amgylchedd a newid hinsawdd
Bydd pob syniad roddir yma yn cael ei drosglwyddo i’r Wici.
Oes na awch mewn gwneud rhan ohono fel BarCamp go iawn, sef dros nos?
-
Carl Morris
DROS NOS!!!
Oes.
Gyda darn yn ystod y dydd hefyd.
-
Sioned
Hia bawb – ddim lot i’w gynnig o ran gwneud cyflwyniadau ac ati, ond yn sicr o fod eisiau dod flwyddyn nesa’ – am gadw golwg yma ac ar y wiki wrth fynd mlaen.
-
Gareth Jones
App ar gyfer Haciaith ar gael nawr http://stwnsh.com/happiaith
-
Carl Morris 1:44 PM ar 6 Medi 2011 Dolen Barhaol
Waw, fel ddoe. Diolch!