John Buchan, Mikhail Bulgakov, F Scott Fitzgerald… 70 mlynedd ar ôl eu marwolaethau, mae llyfrau ganddyn nhw yn dod mas o hawlfraint i’r parth cyhoeddus heddiw.
Unrhyw awduron Cymraeg?
Gwilym Deudraeth, englynwr (William Thomas Edwards) yw’r unig berson dw i’n gallu ffeindio ar hyn o bryd.
Dyn ni’n rhydd i gopïo, addasu, ailgymysgu, cyhoeddi neu ddefnyddio ei gwaith heddiw.
Dim llawer eraill ar y rhestr yma. Unrhyw un?
Hefyd o Gymru dw i wedi ffeindio WH Davies (awdur Autobiography of a Supertramp).
Blwyddyn newydd dda.
DIWEDDARIAD: mwy o Gymry o’r wefan LlGC (diolch Nic Dafis)
Rhestr llawen o awduron mas o hawlfraint heddiw (yr unig eithriad yw gweithiau sydd wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ar ôl marwolaeth)
DAVIES, HENRY REES ( 1861 – 1940 ), hynafiaethydd
DAVIES, JOHN ( 1868 – 1940 ), awdur
DAVIES, JOHN BREESE ( 1893 – 1940 ), llenor a cherddor .
DAVIES, THOMAS HUWS ( 1882 – 1940 ), ysgrifennydd comisiynwyr eiddo’r Eglwys yng Nghymru, llenor, a chasglydd llyfrau
DAVIES, WILLIAM HENRY ( 1871 – 1940 ), bardd ac awdur
EDWARDS, WILLIAM ( 1851 – 1940 ), arolygwr ysgolion Ei Fawrhydi
EDWARDS, WILLIAM THOMAS (‘ Gwilym Deudraeth ’ 1863 – 1940 ), bardd
EVANS, DAVID CLEDLYN ( 1858 – 1940 ), ysgolfeistr, daearegydd a hynafiaethydd
EVANS, THOMAS HOPKIN ( 1879 – 1940 D.W.B. , 1120-1). Cerddor
GRIFFITHS, WILLIAM ( 1859 – 1940 Bywg. , 289)
HUGHES, HENRY MALDWYN ( 1875 – 1940 ), diwinydd a gweinidog Wesleaidd
JONES, JOHN (‘ Ioan Brothen ’ 1868 – 1940 ), bardd
JONES, ROBERT THOMAS ( 1874 – 1940 ), arweinydd Llafur
LLEWELLYN, Syr DAVID RICHARD ( 1879 – 1940 ), BARWNIG, perchennog glofeydd
OWEN, GWILYM ( 1880 – 1940 D.W.B. , 1145), gwyddonydd ac athro anianeg yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth
PRICE, PETER ( 1864 – 1940 ), gweinidog (A)
REES, EDWARD WALTER (‘ Gwallter Dyfi ’ 1881 – 1940 ), rheolwr banc a cheidwad cledd yr Orsedd
ROBERTS, THOMAS ROWLAND (‘ Asaph ’ 1857? – 1940 ), cofiannydd
THOMAS, Syr DANIEL (LLEUFER) ( 1863 – 1940 ), ynad heddwch cyflogedig
Ddim yn Gymraes, ond braf gweld bod gweithiau Emma Goldman bellach yn rhydd.
Leon Trotsky hefyd!
A mwy o Gymry fan hyn (nid pawb yn y rhestr, dyw e ddim yn bosibl chwilio dyddiadau marw yn unig, yn anffodus.
Wrth gwrs, diolch! Diweddarwyd.
Buasai’n wych gweld rhai o’u gwaith arlein ac yn rhydd. (ac ar gael trwy wefannau confensiwnal fel Amazon ayyb) – oes unrhyw gynlluniau?
Gobeithio, dw i’n methu ffeindio llawer o Gwilym Deudraeth arlein felly bydd rhaid i ni sganio rhywbeth.
syniad sesiwn!
http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2011#Chydig_ar_gof_a_chadw
blas o stwff gan Gwilym Deudraeth
http://hedyn.net/wici/Blas_o_stwff_gan_Gwilym_Deudraeth