Dw i wedi sôn am Mastodon o’r blaen yma, y rhwydwaith cymdeithasol fyd-eang ar feddalwedd rydd sydd yn arddel gwerthoedd datganoledig a chymunedol.
Nodyn bach sydyn ydy hwn i ddweud bod meddalwedd Mastodon bellach ar gael yn Gymraeg.
Mae hyn yn golygu bod modd:
- cynnig Cymraeg fel iaith rhyngwyneb os ydych chi am sefydlu achos/gweinydd eich hunain
- dewis Cymraeg fel iaith eich rhyngwyneb ar unrhyw achos/gweinydd o hyn ymlaen, cyn belled bod y gweinyddwr[aig] wedi gosod y meddalwedd arferol gan gynnwys pecynnau iaith.
e.e. dyma gwpl o enghreifftiau o achosion sy’n cynnig y rhyngwyneb Cymraeg eisoes:
- twt.cymru – menter newydd gan Jaz-Michael King i ddarparu achos dwyieithog cyffredinol i Gymru (mwy o fanylion am hyn yn y man)
- mastodon.social – y gweinydd mwyaf boblog yn fyd-eang
- rhai eraill
Mae rheolwyr y prosiect wedi diweddaru’r ystorfa ar Github gyda’r cyfieithiadau Cymraeg o system Weblate yn ddiweddar yr wythnos hon.
Diolch o galon i Owain Rhys Lewis, Rhos Prys, a Jaz-Michael King am eu gwaith ar y cyfieithiad.
Wrth gwrs bydd angen i bobl ddiweddaru’r cyfieithiad ar Weblate wrth i nodweddion newydd ar y system gael eu hychwanegu.