Helô Hacieithwyr hoff!
Ro’n i’n chwilio am bethau ynglyn â Disqus yn Gymraeg yn gynharach pnawn ‘ma a meddwl y baswn i’n cofnodi hyn yn fa’ma – gobeithio y bydd o ddiddordeb!
Yn y gwaith (Cwmni Da) dw i a Phil Stead wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn sy’n cael ei lansio ar draws Ewrop mewn llai na pythefnos.
Mae S4C yn un o gyd-gynhyrchwyr ‘Generation Beth’ ynghyd â nifer o ddarlledwyr eraill
Mae’n brosiect sy’n edrych ar fywydau pobl ifanc (oed 16-34) a’u hagweddau at bob math o bynciau. Mi fydd arolwg rhyngweithiol deinamig yn lansio yn swyddogol ar Ebrill 11eg a chyfres o ffilmiau dogfen teledu yn darlledu o Fai 13eg.
Erbyn hyn, mae dros 15 o wledydd ar draws Ewrop yn rhan o brosiect Generation Beth a’r cyd-gynhyrchiad yn cael ei reoli gan yr EBU (European Broadcsting Union). Mae llwyddiant prosiect rhyngweithiol fel hyn yn dibynnu ar bartneriaethau cryf ar draws Cymru. Felly, os allwch chi helpu cyfeirio pobl at y prosiect cyffrous hwn mi fasen ni’n ddiolchgar iawn.
Mae’r arolwg yn fyw rŵan, ond nid yw’r holl elfennau deinamig i’w gweld eto. Tydi o ddim yn lansio yn swyddogol tan Ebrill 11eg, ond rydyn ni angen nifer o bobl i gymryd rhan cyn y dyddiad yna. Gorau oll os ydyn nhw yn 16-34 oed, ond mae modd i unrhywun gymryd rhan wrth gwrs. Mae nifer o’r cwestiynau yn lot o hwyl i’w hateb – ac yn gwneud i chi feddwl! Mae’n hollol gyfrinachol – felly ewch amdani, a rhannwch y ddolen gyda’ch ffrindiau!