Mae mis i fynd tan Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar ddydd Sadwrn 15fed o fis Chwefror 2014!
Dyma nodyn bach sydyn i ddweud ein bod ni wedi diweddaru’r tudalen wici Hedyn gyda rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y digwyddiad:
- Llety (gan gynnwys nifer gyfyngedig o lefydd ar ostyngiad arbennig i bobl Hacio’r Iaith yn y Ganolfan Rheolaeth)
- ‘Gofod cydweithio’ opsiynol ar dydd Gwener
- Swper nos Wener
- Rhaglen dydd Sadwrn
Os ydych chi am archebu tocyn, darllenwch y cofnod blog Hacio’r Iaith 2014 yn gyntaf ac wedyn ewch i gofrestru tocyn ar Eventbrite.
(Dw i wedi troi sylwadau i ffwrdd isod er mwyn gwneud pethau yn symlach! Plis gadewch sylwadau a syniadau ar y cofnod Hacio’r Iaith 2014. Diolch!)