BBC Cymru Wales yn cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu “Cymru Fyw” – gwasanaeth ar-lein newydd yn Gymraeg fydd yn gyfoes ac unigryw
Mae BBC Cymru Wales heddiw wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd sylweddol yn eu gwasanaethau digidol ar-lein yn Gymraeg gyda chynlluniau i ddatblygu gwasanaeth newydd o’r enw Cymru Fyw.
Bydd y gwasanaeth, fydd yn dechrau fel cynllun peilot am ddwy flynedd, ar gael ar bob llwyfan – cyfrifiaduron desg, ffônau symudol a thabledi – a bydd yn cyfuno newyddion byw a nifer o elfennau eraill. Prif nodweddion Cymru Fyw fydd:
- y straeon newyddion diweddaraf ar draws Cymru
- ffrwd blog byw gyda’r manylion diweddaraf am newyddion o Gymru, chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth a thywydd, yn ogystal â llwyfan i ryngweithio gyda defnyddwyr trwy gyfryngau cymdeithasol
- porth i’r cynnwys ar-lein gorau yn Gymraeg gan gyflenwyr eraill – gan ddefnyddio pŵer brand y BBC i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynnwys perthnasol ar draws y rhyngrwyd
- eitemau nodwedd ac erthyglau barn
- llwyfan ar gyfer pob gwasanaeth byw a chyfredol ar-lein arall sydd ar gael yn Gymraeg gan y BBC, e.e. BBC Radio Cymru, BBC iPlayer, Democratiaeth Fyw, Tywydd a Theithio
Bydd Cymru Fyw yn cael ei ddatblygu a’i lansio dros y misoedd nesaf, a bydd y BBC yn cryfhau’r tîm sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg, gan greu chwech o swyddi ychwanegol.
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales, mai bwriad y datblygiad yw ehangu apêl a chyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein:
“Mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein, rhyngweithiol yn Gymraeg gystadlu gyda chyfryngau byd-eang, a dyna un o’r heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu’r iaith. Er ein bod yn darparu rhai o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni eisiau creu mwy o argraff ar ein cynulleidfa,” meddai Sian.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer y defnyddwyr sy’n defnyddio gwefannau Cymraeg y BBC wedi cynyddu dros 50% – ond rydyn ni’n hyderus bod yna le i dyfu ymhellach wrth i’r defnydd o ffônau symudol a thabledi gynyddu. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hyd yma er mwyn cyrraedd 50,000 o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos.
“Mae Cymru Fyw yn fuddsoddiad cyffrous a sylweddol mewn gwasanaeth ar-lein yn Gymraeg a bydd yn cynnig darpariaeth mwy amserol ac unigryw i ddefnyddwyr. Mae angen i ni gydweithio gyda chyhoeddwyr ar-lein eraill yn y Gymraeg er mwyn sicrhau ein bod yn creu mwy o argraff. Bydd Cymru Fyw yn helpu defnyddwyr i wneud y gorau o’r cynnwys sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg, ac adnoddau eraill sy’n berthnasol iddynt, ar draws y rhyngrwyd.”
Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaethau digidol yn Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r BBC hefyd wedi penderfynu canolbwyntio’r buddsoddiad newydd ar bump maes fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer datblygiad rhyngweithiol/ar-lein. Yn ogystal â’r elfennau a restrwyd uchod ar gyfer Cymru Fyw ceir:
- BBC Radio Cymru ar-lein – sy’n cynnig cynnwys am wasanaeth BBC Radio Cymru, fel gwybodaeth am raglenni, blogiau a chlipiau, yn ogystal â’r gallu trwy BBC iPlayer Radio i wrando yn fyw ac i wrando nôl ar raglenni o’r 7 diwrnod diwethaf
- BBC iPlayer – mae rhaglenni teledu Cymraeg BBC Cymru Wales ar S4C ar gael ar BBC iPlayer
- Dysgu – mae hwn yn cynnwys yr holl adnoddau dysgu yn Gymraeg, e.e. BBC Bitesize, yn ogystal â chynnwys dysgu arall yn Gymraeg
- CBeebies – rydym wedi bod yn gweithio gyda CBeebies i ddatblygu cynnwys iaith Gymraeg o amgylch brandiau allweddol y sianel fel Tree Fu Tom, ynghyd â 16 o gemau yn y Gymraeg ar gyfer ystod ehangach o sioeau megis Numtums, Timmy Time, Nina and the Neurons, Everthing’s Rosie, Kerwhizz a Driver Dan ac rydym yn bwriadu datblygu cynnwys newydd yn y dyfodol.
Dw i heb gael siawns i fyfyrio am y peth heddiw ond maent yn cynllunio’r ‘porth i’r cynnwys ar-lein gorau yn Gymraeg gan gyflenwyr eraill’ ers sbel. Ac byddai fe’n rhywbeth i’w groesawi. Mwy o sylw a chynulleidfa i flogwyr annibynnol (fel chi) yw’r gobaith.
Mae hwn yn swnio’n wych: lincio allan mwy a rhagor o staff yn gweithio ar y gwasanaeth Cymraeg. Newyddion ardderchog.