Dwi wedi bod yn pendroni am y pwnc yma neithiwr felly dyma ambell drydariad yn rhoi fy meddyliau lawr. Beth ydach chi’n feddwl am y pwnc? Ydi o’n hanfodol? Ydi o’n bosib? Be ma gwledydd eraill wedi llwyddo i’w wneud? Sut mae nhw wedi gwneud hynny a gyda pha fesur op lwyddiant?
Ma’n faes sydd heb ei gyffwrdd bron o ran trafodaeth gyhoeddus heblaw ambell waith yn dilyn rhyddhau sawl gêm “gyntaf yn Gymraeg” ar iphones. Mi fasa’n dda clywed gan Gruff Prys hefyd! Galw Gruff!
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286255856692109313″]
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286264587928608771″]
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286268804600844290″]
[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286269373247803392″]
Dechreuwch y drafodaeth yma! Rhowch sylw isod yn dweud eich dweud os da chi’n gamer, yn riant, yn ddatblygwr neu’n gynllunydd iaith.
Mae gen i ddiddorddeb mewn addasu gemau ‘casual’ arlein i’r Gymraeg – y gemau hynny sy’n cael eu chwarae mewn porwr. Dwi di arbrofi gyda sawl safle ond y gorau hyd yma yw PlayMyCode.com.
Dyma arbrawf:
http://www.playmycode.com/play/game/melynmelyn/peli
Fersiwn Cymraeg o’r gem Life Just Bounces gan badlydrawnrod. Amcan y gem yw dinistrio’r blociau er mwyn cael sgor mor uchel a phosib.
Gwnaed rhywbeth tebyg yma: http://hedyn.net/wici/Moch_Cwta#Spots (er, mae’r wefan wedi diflanu bellach)
Yn sicr, dechrau gyda rhywbeth bach fyddai orau, er mae’n bwysig cael yr enw mawr hefyd.
Roedd cyflwyniad Gruffydd Prys yn Haciaith 2010 yn rhoi blos o beth sy’n bosib.
Bu trafodaeth yma wedyn hefyd.
Mae angen pob math o gemau, ond dwi yn meddwl bod angen gemau proffil uchel. Dyma ddolen i dudalen Llywodraeth Catalunya’n trafod rhoi sybsidi i Ubisoft i wneud fersiwn Catalaneg o Tintin ar gyfer Nintendo 3DS. Mae faint o blatfformau sydd na yn rwystr mawr hefyd wrth gwrs. Ac fel sinema, mae’n ddrud ac yn risg uchel. Faint o gemau sydd yn llwyddo am y rhai sy’n methu?
Nid enghraifft ydy hon, ond mi fyddai hi’n gymharol hawdd cyfieithu rhai o gemau achos o’r strwythr. Mae rhai yn arfer defnyddio ffeil deialog bod chi’n medru’i newid – e.e. llawer o gemau chwarae rôl bod pobl yn ei addasu yn aml. Ond y problem mawr ydy, fyddai pobl yn ei chwarae nhw yn Gymraeg? Achos er fydd hi’n eitha hawdd ei haddasu nhw, mi fydd na llawer o waith cyfieithu i’w wneud, a does neb eisiau gwneud y fath beth a neb yn rhoi sylw.
Dydy o ddim yn perthyn yn syth i’r peth, ond mae’n ddiddorol a thechnolegol serch hynny: gem bwrdd+app dysgu iaith ar Kickstarter. Fersiwn Cymraeg, falle? Edrycha ar stretch goal 7, Hack Pack.