‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru

Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru:

Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig.

Er mwyn sicrhau bod strategaeth TGCh integredig a chydlynol yn sail i ddysgu ac addysgu yng Nghymru, rydym yn cymryd nifer o gamau, gan gynnwys:

  • lansio rhith-amgylchedd dysgu i Gymru gyfan (Hwb) ym mis Rhagfyr 2012;
  • lansio sianel iTunes U i Gymru o’r enw Addysg Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
  • cynnal Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ym mis Mehefin 2013;
  • cyflwyno rhaglen datblygu proffesiynol, a ariennir yn ganolog, ar gyfer athrawon ac aelodau perthnasol eraill o staff, o fis Medi 2013.

Gallwch chi weld manylion pellach am Hwb a’r Sianel iTunes ar y ddogfen PDF yma sydd ar gael o’r dudalen newyddion hon.

Dyma’r disgrifiad byr o Hwb:

Beth yw Hwb?

Platfform dysgu ar-lein yw Hwb. Mae’n seiliedig ar dechnoleg Learning
Possibilities, LP+, sydd wedi ennill gwobrau. Trwy ddefnyddio Hwb,
bydd pob athro a dysgwr 3-19 yng Nghymru yn gallu manteisio ar
gyfoeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu sydd wedi’u caffael gan
Lywodraeth Cymru.

Prif fantais y wefan yw ei gallu i hwyluso cydweithio o fewn ysgolion,
awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol a hefyd rhwng y
sefydliadau hyn. Bydd deunyddiau a allai fod yn batrwm i eraill yn cael
eu nodi a’u rhannu ar draws Cymru gyfan.

Fasa’n ddiddorol gwybod beth mae addysgwyr haciaith yn meddwl o’r datblygiadau. Fyddan nhw’n gwneud gwahaniaeth i addysg yn eich ysgolion chi?

10 sylw

  1. Dw i’n credu bydd yr un problem gyda Hwb, fel pob VLE – y problem o wneud e mwy na jest “lle i rhoi pethau…” Mae mwy na digon o ‘leyfeydd i rhoi pethau’ arlein yn barod (a mae nifer fawr am ddim ac yn agor!) Dw i’n disgwyl yn hyderus i weld tua 10% neu llai o athrawon yn defnyddio yr amrywiaeth llawn o offer rhyngweithiol ac yn cyfrannu cynnwys, gyda ‘falle 50% arall yn defnyddio fe fel “lle i gael pethau i gadw y plant yn brysur pan dyn ni’n yn yr ystafell TGCh” ac y gweddill yn anwybyddu ar ôl y Dydd Inset cyntaf.

    Hoffwn i bod yn anghywir, ond…

  2. Yr union beth y mae Leia newydd ddweud aeth drwy fy meddwl innau. Mond ychydig ddyddiau’n ôl y postiodd NIc Dafis am ei brofiad o, er ei bod yn ddyddiau cynnar, o drio cael cyfranwyr cynnwys at Y Bont, sef gwefan i diwtoriaid a myfyrwy Cymraeg i Oedolion – er, tydi’r ffaith mai Moodle yw’r platffrom ddim yn help yn yr achos hynny! Mae yna lot o stwff defnyddiol ar wefan GCaD Cymru, jyst bod o ddim yn hygyrch ofnadwy.

    O ddarllen y manylion ar y PDF, roedd yn ddiddorol darllen am Microsoft Office 365:

    Mae Hwb yn caniatáu i aelodau o staff a disgyblion ddefnyddio gwasanaethau sydd ar gael ar y rhyngrwyd fel Microsoft Office 365. Mae hynny’n darparu fersiynau ar-lein o OneNote a Lync a Word, PowerPoint ac Excel Microsoft Office, gan sicrhau bod cyfleusterau
    Microsoft Office ar gael i bob aelod o staff a phob disgybl p’un a yw’r cyfleusterau hynny wedi eu gosod ar ei gyfrifiadur ai peidio.

    Sy’n golygu na fydd rhaid i bawb fod efo’r fersiwn diweddaraf o MS adre ar eu cyfrifiadur neu ddim copi o gwbl hyd yn oed, sy’n amlwg yn beth da! Ond wedi darllen linell gyntaf erthygl Wikipedia am Microsoft 365, sef:

    Office 365 primarily denotes a set of subscription based software services that require monthly or periodic payment of fees to Microsoft Corporation

    Ydy hynny felly’n golygu y bydd rhaid i Lywodraeth y Cynulliad dalu am drwydded Microsoft dros pob disgybl ac athro drwy Gymru os ydynt ei ddenfyddio neu beidio sgwn i?

  3. System talu am ddefnyddwyr cydamserol, falle? Dyma’r ffordd dan ni’n prynu e-gyfnodolion o ran dewis. Ond, oni fydd y rheini’n defnyddio Office am ddim hefyd felly? Dwi’m yn credu bydd MS yn hapus efo hynny…

  4. Ie, dwi’n edrych ar MOOCS (dyma farn Shirky ar MOOCS – h.y. ma’r academi’n ffycd!) a VLEs efo dos iach o amheuaeth. Fy unig brofiad ydi o ddefnyddio Blackboard sydd yn ryngwyneb mor ofnadwy o anhylaw a hyll ma’n gneud i fi feddwl os oes na unrhyw waith dylunio UI neu UX wedi mynd mewn iddo. Ta ydyn nhw’n trio dylunio nhw’n brofiadau boring, rhwystredig?

    Ar y cefndir hwn mae darlithoedd yn y cnawd am barhau i fod yn ffyrdd da o ddod â gwybodaeth a dysg yn fyw am beth amser eto.

  5. Er bod i’n cytuno taw darlithoedd (a seminarau, sesiynau eraill) yn ddull effeithiol mae angen ystyried pa mor gynaliadwy yw’r costau cyrsiau i fyrfyrwyr achos dyma beth sydd yn bwysig. Y her gyntaf i brifysgolion yw’r cyrsiau ymarferol/galwedigaethol lle does dim gymaint o werth yn yr enw. Os oes modd dysgu’r un gwybodaeth tu allan i’r brifysgol ac os oes cyflogwyr yn fodlon ystyried pobl heb radd pam fydd unrhyw un ar y cyrsiau galwedigaethol eisiau treulio gymaint o amser?

    Pan dw i’n gweld rhywbeth fel Udacity dw i eisiau gweld rhywbeth tebyg yn y Gymraeg er mwyn gwneud cymhariaeth deg. Oes cwrs llawn trwy gyfrwng y Gymraeg – unrhyw pwnc – ar y we unrhyw le, unrhyw beth sydd yn edrych fel un o’r cyrsiau ar Udacity?

  6. Rwyf wedi dilyn dau gwrs MOOC hyd yn hyn (a’u gorffen) drwy Coursera (https://www.coursera.org/) ac wedi edrych ar rai Udacity. O’r ddau gwrs a wnes gyda Coursera, roedd un (a ddarparwyd gan Stanford) yn wych, a’r llall (gan John Hopkins) yn eitha da. Roedd y ddau ohonynt yn well na llawer o gyrsiau eraill rwyf wedi eu dilyn yr oedd yn rhaid talu’n ddrud amdanynt. Er na ches gymhwyster swyddogol cydnabyddiedig, teimlaf yn sicr fy mod wedi ymelwa’n fawr o gwrs Stanford. Rwy’n ffan mawr o MOOCS felly. Gellwch ddilyn eich diddordebau, am ddim, ar adegau cyfleus i chi (ond mae angen fod yn hunan-ddisgybledig iawn i ddilyn cwrs i’w ben). Os yw’r cwrs yn anniddorol, gellwch roi’r gorau iddo’n ddi-gost.

    Gyda chyrsiau Udacity, does dim hyd yn oed rhaid i chi gofrestru ar-lein yn swyddogol. Gellwch weld y cwrs i gyd, gwylio’r fideos sydd o ddiddordeb, a cheisio’r profion hyd yn oed. Os yw’r cwrs yn hawdd i chi, gellwch rasio drwyddo heb gael eich dal yn ôl gan rywun arall; os yw’n anodd gellwch symud mor araf ag y dymunwch, heb ddal neb arall yn ôl. Ffantastig.

  7. Bydd MOOCS yn siwtio rhi mathau o wybdoaeth yn well nac eraill yn sicr. Bosib taw adrannau cyfrifiadureg fydd yn cael eu heffeithio waethaf i ddechrau – ond dwi’n enghraifft o berson sydd angen amgylchedd addysg i weithio ar fy ngorau. Mae’n rhoi disgyblaeth well gan fod elfen o gyd-ddysgu a dysgu oddi wrth eich gilydd. Faint o hyn allwch chi gael o MOOCS sgwn i? Wn i ddim chos dwi heb wneud un (ond dwi wedi rhoi’r gorau i ddysgu Javascripy ar Code Academy – sdim extrinsic motivation gen i, a dim digon o intrinsic!).

    Dyma ongl arall ar MOOCS o flog O’Reilly: http://radar.oreilly.com/2012/12/the-mooc-movement-is-not-an-indicator-of-educational-evolution.html

    Cwestiynu ai MOOCS sydd yn arloesi mewn ffurfiau newydd o addysgu neu eraill?

  8. Dydy o ddim yn ymddangos bydd modd newid iaith y rhyngwyneb. “Cwestiynau Cyffredin Hwb”, tudalen 33:

    “A fydd Microsoft Office 365 ar gael yn Gymraeg?

    Bydd. Bydd angen i ysgolion benderfynu ar yr adeg darparu pa iaith a ddefnyddir ar gyfer Microsoft Office 365. Nid oes swyddogaeth togl ar hyn o bryd ym Microsoft Office 365, felly unwaith y bydd defnyddiwr yn dewis iaith benodol, ni ellir addasu’r dewis hwn.”

    Mae hynny’n “show-stopper” mewn gwlad ddwyieithog. Bydd Saesneg yn cael ei dewis “rhag ofn”. Rhag ofn bydd angen help technegydd di-Gymraeg. Rhag ofn bydd angen gweithio gyda person di-Gymraeg. Rhag ofn bydd rhyw derm technegol anghyfarwydd yn y fersiwn Cymraeg … ayb.

    Dolen:

    https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A3=ind1211&L=WALES-LTF&E=base64&P=711474&B=–_005_0219E08D3E5AD34F915466470BC857532337C585D4exchangeserve_&T=application%2Foctet-stream;%20name=%22Welsh%20Government%20Hwb%20FAQs%20November%202012%20Welsh%20Version.pdf%22&N=Welsh%20Government%20Hwb%20FAQs%20November%202012%20Welsh%20Version.pdf&attachment=q&XSS=3

Mae'r sylwadau wedi cau.