Dyma’r siart
1. Blog Dolgellau (Iawn Chafi? Gwefan / blog i rannu straeon a mwy am ardal Dolgellau)
2. Asturias yn Gymraeg (Asturias en galés; in Welsh)
3. Matthew yn Aber (Siarad rwtsh ymysg y call!)
7. Blog Colin (Syniadau am Gymru a thu hwnt)
9. Dyffryn Nantlle 20:20 (gweledigaeth ar gyfer y dyffryn)
Ffynhonnell: “The most popular WordPress.com blogs are ranked here according to a special formula.”
(edrych fel cynnwys newydd yw un o’r meini prawf)
Maen nhw i gyd ar Y Rhestr Hedyn.
Sut i ddechrau blog (blog lleol ond addas i bynciau eraill)
Waw, mae pethau’n symud yn gyflym yn y siartau – dyma sut mae’n erdych bore’ma. Dau new entry (a dau gwbl newydd i mi).
1. Serencymru360’s Blog
2. Blog Colin
3 s4cnewydd
4. Priodas Aled a Sioned
5. Matthew yn Aber
6. Dyffryn Nantlle 20:20
7. Asturias yn Gymraeg
8. Blog llyfrgelloedd Cymru Alyson
9. Blog Dolgellau
10. Pleidleisiwch 2011
Chwarae teg, mae WordPress yn wych am eich helpu i ddarganfod blogiau newydd a chofnodion diddorol mewn iaith benodol. Do’n i ddim yn meddwl bod neb yn trafferthu tagio ar flogiau Cymraeg ond wrth glicio at y tag ‘toriadau’ ar un blog, des ar draws 3 cofnod arall o ddau flog arall -dau yn ymwneud a thoriadua gwariant, ac un ynglyn a garddio!
Ond mae’r byd blogiau ar WordPress.com dal yn fach iawn. Mae sbamblog “Dim ar dy fywyd!” newydd cyrraedd rhif 14 ar y rhestr. http://nda001.wordpress.com