Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn falch o gyhoeddi dwy ysgoloriaeth PhD ym maes y Cyfryngau Digidol. Cyllidir y ddwy ysgoloriaeth drwy gynllun KESS (Knowledge Economy Skills Scholarships) fel a ganlyn:
Datblygiad Naratifau Clyweledol Aml-blatfform mewn cydweithrediad â chwmni teledu Cwmni Da (http://www.cwmnida.tv); a
‘Cynhyrchu a Dosbarthu Cynnwys Aml-Gyfryngol Ar-lein mewn Cyd-destunau Lleol a Hyper-Lleol yn yr iaith Gymraeg’ mewn cydweithrediad â Golwg360 www.golwg360.com.
Mae’r ddwy ysgoloriaeth yn gyfleon ardderchog i archwilio’r meysydd heriol hyn drwy brosiectau ymchwil doethuriaethol wedi eu cyllido, gyda’r gwaith ymchwil wedi ei leoli’n gadarn yn yr economi ddigidol Gymreig. Rhaid i’r ymgeisyddion fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gweithio ar y prosiectau ymchwil hyn. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gychwyn ar yr Ysgoloriaeth ar 1 Ebrill 2011. Manylion pellach (yn Gymraeg yn unig)http://www.aber.ac.uk/cy/tfts/prospective-students/prosp-pg/phd-mphil/ neu cysyllter ag Elin Haf Gruffydd Jones (Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Sefydliad Mercator). Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 19 Chwefror 2011.