Mae hi’n bleser gen i ddweud ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2019!
Fe fydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol.
Fe fydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir (achos mae rhaid cofrestru am eich tocyn am ddim).
Yn y cyfamser cadwch y dyddiad yn rhydd:
Hacio’r Iaith 2019
Dydd Sadwrn 9fed Chwefror 2019
Yr Egin, Caerfyrddin, Cymru, Ewrop
Rydyn ni wedi cynnal sawl digwyddiad dros y blynyddoedd ac dyma fydd ein 9fed penblwydd a’r 10fed digwyddiad mawr blynyddol, a’r tro cyntaf i ni ymgynnull yng Nghaerfyrddin.
x
Helo!
Cofrestrwch am le yma!
Mae tocynnau am ddim ond mae angen cofrestru.
Rydyn ni’n anelu at drefnu/bwcio sesiynau yn y bore o flaen llaw, gyda gofodau gwag i’w llenwi yn y prynhawn. Cyd-drefnwch yma.
🙂
Yay! Haciaith eto! Yn cario ‘mlaen o’r sgwrs am ferced/hacwragedd y tro dwetha beth gallwn ni’n trefnu i helpu / annogi mwy o ferched i ddod a chyflwyno? Dwi’n hapus is help trefnu pethau ar gyfer plant falle? Sut le yw’r lleoliad am blant / mamau e.e?
Leia… diolch am ofyn a diolch am y sgwrs trwy negeseuon uniongyrchol Twitter.
Yr ateb yw: llwythi o bethau mae’n siŵr… Dw i’n meddwl bod hyn yn gwestiwn ardderchog ac wedi creu adran ar y ddogfen ar ei gyfer.